Pobl y Senedd
Altaf Hussain AS
Aelod Rhanbarthol o’r Senedd
Ceidwadwyr Cymreig
Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig
Gorllewin De Cymru
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
80 Stryd Fawr
Gorseinon
Abertawe
SA4 4BL
Swyddfa
0300 200 7259
Cyfeiriad Senedd:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Senedd
0300 200 7259
E-bost
Altaf.Hussain@senedd.cymru
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Altaf Hussain AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Mae Altaf Hussain yn Aelod o Senedd Cymru sy’n cynrychioli rhanbarth Gorllewin De Cymru, wedi iddo gael ei ethol ym mis Mai 2021. Ef yw Gweinidog yr Wrthblaid dros Gydraddoldeb. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Dirprwy Chwip, ac mae ganddo gyfrifoldeb ychwanegol dros Hawliau Dynol. Roedd eisoes yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng mis Mai 2015 a mis Ebrill 2016.
Altaf yw cynrychiolydd eiledol y Ceidwadwyr Cymreig ar y Pwyllgor Busnes a’r Pwyllgor Safonau. Yn ogystal, ef yw’r hyrwyddwr dynodedig dros bobl hŷn. Mae hefyd yn gynghorydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynrychioli ward Pen-y-fai, ac yn gynghorydd yng Nghyngor Cymuned Uwch Newcastle.
Mae Altaf yn Llywydd Anrhydeddus i'r Ceidwadwyr yn ardal Gorllewin De Cymru, ac roedd yn aelod o fwrdd plaid y Ceidwadwyr Cymreig, gan gyflawni rôl cadeirydd ardal Gorllewin De Cymru.
Mae Altaf wedi treulio ei fywyd gwaith cyfan yn gwasanaethu’r cyhoedd. Yn flaenorol, roedd yn llawfeddyg orthopedig ymgynghorol, gan gyflawni sawl swydd glinigol bwysig yng Nghymru a thu hwnt. Mae wedi bod yn un o gymrodorion Coleg Rhyngwladol y Llawfeddygon ers 1987 a Chymdeithas Orthopedig Prydain yn y DU ers 1985. Ers 2002, mae hefyd wedi bod yn diwtor yng Ngholeg Brenhinol y Llawfeddygon yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Roedd Altaf yn oruchwylydd gwaith ymchwil a datblygu yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful, rhwng 2005 a 2009, ac ef oedd y clinigydd arweiniol hefyd ar y grŵp llywio ar gyfer gweithredu canllawiau NICE ac ar gyfer effeithiolrwydd ac archwilio clinigol. Mae'n parhau i fod yn diwtor llawfeddygaeth orthopedig, ac mae ganddo sawl rôl olygyddol sy'n ei alluogi i helpu i lunio a phennu cyfeiriad gwaith ymchwil y dyfodol yn y maes meddygol hwn.
Mae gan Altaf record arbennig ym maes ymchwil, ac mae wedi datblygu nifer o dechnegau llawfeddygol newydd. Mae wedi cyfrannu sawl erthygl i amryw gyfnodolion rhyngwladol ac wedi cael cydnabyddiaeth fyd-eang am ei gyflawniadau.
Yn ei amser hamdden, mae Altaf yn mwynhau chwarae golff, darllen a chadw'n heini. Mae'n briod â Khalida, a fu'n feddyg teulu yn ne Cymru cyn ymddeol . Mae ganddyn nhw ddau o blant, ac maen nhw'n mwynhau treulio amser gyda'u hwyrion.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 19/05/2015 - 05/04/2016
- 08/05/2021 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Seneddau Blaenorol
- Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
- Atal Hunanladdiad - Grŵp Trawsbleidiol
- Bioamrywiaeth - Grŵp Trawsbleidiol
- Camddefnyddio Sylweddau a Dibyniaeth - Grŵp Trawsbleidiol
- COVID hir - Grŵp Trawsbleidiol
- Dementia - Grŵp Trawsbleidiol
- Diabetes - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol - Grŵp Trawsbleidiol
- Hawliau Dynol - Grŵp Trawsbleidiol
- Hemoffilia a Gwaed wedi'i Heintio - Grŵp Trawsbleidiol
- Hil a Chydraddoldeb - Grŵp Trawsbleidiol
- Iechyd yr Ysgyfaint - Grŵp Trawsbleidiol
- Lluoedd Arfog a’r Cadetiaid - Grŵp Trawsbleidiol
- Pobl Hŷn a Heneiddio - Grŵp Trawsbleidiol
- STEMM - Grŵp Trawsbleidiol
- Strôc - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) - Grŵp Trawsbleidiol
- Undod rhwng cenedlaethau - Grŵp Trawsbleidiol (Is-Gadeirydd)
- Yr Arennau - Grwp Trawsbleidiol