Pobl y Senedd

Alun Ffred Jones

Alun Ffred Jones

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Alun Ffred Jones

Bywgraffiad

Roedd Alun Ffred Jones yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2003 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Cefndir personol

Ganwyd Alun ym Mrynaman ym 1949 a derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei ethol, roedd Alun yn gyfarwyddwr teledu a chynhyrchydd gyda Ffilmiau'r Nant a chyn hynny, roedd yn athro Cymraeg, yn Bennaeth Adran ac yn newyddiadurwr gyda HTV. Mae Alun yn gyn-arweinydd Cyngor Gwynedd  ac yn gyn-gadeirydd cwmni menter cymunedol lleol, Antur Nantlle a Chlwb Pêl-droed Dyffryn Nantlle. Yn 2008, cafodd ei ddewis i fod yn Weinidog dros Dreftadaeth yn lle Rhodri Glyn Thomas. Mae’n mwynhau mynd i’r theatr, gwylio ffilmiau, barddoniaeth, chwaraeon a garddio.

Cefndir gwleidyddol

Etholwyd Alun i’r Cynulliad am y tro cyntaf yn 2003 fel yr Aelod dros Gaernarfon, cyn cael ei ddewis i gynrychioli etholaeth newydd Arfon yn etholiad 2007. Mae diddordebau gwleidyddol Alun yn cynnwys darlledu, datblygu cymunedol a’r economi. Ar 22 Gorffennaf 2008 fe’i penodwyd yn Weinidog dros Dreftadaeth yn Llywodraeth Cymru. Ar 20 Hydref 2008, Alun oedd y person cyntaf i ddefnyddio’r Gymraeg fel cynrychiolydd o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yng nghyfarfod yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Alun Ffred Jones