Pobl y Senedd

Andrew Griffin AS

Andrew Griffin AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Reform UK

Grŵp Reform UK Wales

Gwynedd Maldwyn

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Andrew Griffin AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Rhoi Eraill yn Gyntaf, Arweinydd Cymunedol, Cyn Swyddog Cadetiaid Awyr y Llu Awyr Brenhinol (RAFAC), Ymddiriedolwr Elusen, Llywodraethiant

Hanes personol

Rwy'n arweinydd sy'n canolbwyntio ar y gymuned, ac mae ethos clir yn llywio fy ngwaith, sef “rhoi eraill yn gyntaf." Mae fy mhrofiadau fel cyn-Swyddog Cadetiaid Awyr y Llu Awyr Brenhinol (RAFAC) ac fel ymddiriedolwr elusen yn sail i fy ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus, datblygu ieuenctid, a llywodraethiant cryf a chyfrifol. Rwy'n credu mewn arweinyddiaeth ymarferol — gwrando yn gyntaf, gweithio ar y cyd, a throi syniadau'n gamau gweithredu yn y byd go iawn. Rwy'n rhoi gwerth uchel ar atebolrwydd, tryloywder, a stiwardiaeth ofalus o adnoddau, gan chwilio bob amser am atebion cytbwys ac adeiladol sy'n buddio’r gymuned ehangach. Rwy’n cael fy symbylu gan yr awydd i gryfhau bywyd dinesig lleol, cefnogi mentrau cymunedol, a helpu i greu lleoedd y mae pobl yn teimlo'n falch i fyw a gweithio ynddynt ac i berthyn iddynt.

Cefndir proffesiynol

Rwyf wedi treulio mwy na 30 mlynedd yn gwirfoddoli yn Lluoedd y Cadetiaid, gan gynnwys mewn rôl arweinyddiaeth uwch, gyda chyfrifoldeb dros tua 2,000 o gadetiaid a gwirfoddolwyr sy'n oedolion. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cydweithiais yn agos â phobl ifanc a gwirfoddolwyr, gan gynnwys drwy heriau’r cyfnod COVID. Ochr yn ochr â hyn, llwyddais i ddatblygu gyrfa ym maes gweinyddiaeth, gweithrediadau a rheoli data ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Rwyf wedi gweithio gyda chyflogwyr y GIG ac ym maes addysg mewn carchardai, gan gynorthwyo’r broses o gyflwyno rhaglenni, rheoli perfformiad, a sicrhau bod gwasanaethau cymhleth parhau i redeg yn effeithiol.

Hanes gwleidyddol

Cynghorydd Tref a Maer, Cyngor Tref Llanfyllin

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Digwyddiadau calendr: Andrew Griffin AS