Roedd Ann Jones yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Ymhell cyn ei dyddiau ym myd gwleidyddiaeth roedd Ann yn treulio llawer o'i hamser yn dilyn Clwb Pêl-droed Tref y Rhyl ac mae dal ganddi docyn tymor ar gyfer Lilywhites.
Hanes personol
Cafodd Ann Jones ei geni a'i magu yn y Rhyl ar arfordir gogledd Cymru, ac yno y mae hi wedi byw gydol ei hoes.
Cefndir proffesiynol
Bu'n gweithio am bron i 30 mlynedd yn yr ystafelloedd rheoli tân yng Ngogledd Cymru a Glannau Merswy nes iddi gael ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999. Cyn cael ei hethol i'r Cynulliad, gwasanaethodd Ann fel Cynghorydd Tref y Rhyl a hi oedd Maer y dref yn 1996/7. Roedd hi hefyd yn gynghorydd yn sir Ddinbych.
Hanes gwleidyddol
Mae'n weithgar gyda'r undebau llafur, ac fe wasanaethodd Ann fel swyddog cenedlaethol yn Undeb y Brigadau Tân am nifer o flynyddoedd, ac mae wedi bod yn aelod o Weithrediaeth Plaid Lafur Cymru a Gweithrediaeth TUC Cymru. Mae hi'n aelod o UNSAIN, a hi sy'n cadeirio grŵp UNSAIN Aelodau'r Cynulliad. Mae hi hefyd dal yn aelod 'y tu allan i'r maes' o Undeb y Brigadau Tân.
Wrth hyrwyddo ei chymuned leol, mae Ann Jones wedi gweithio'n ddiflino gyda Llywodraeth Llafur Cymru ac wedi llwyddo i ddenu buddsoddiad sylweddol i'r ardal.
Roedd Ann Jones Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros y Pumed Cynulliad.