Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Rwy'n mwynhau
gweithio gyda phobl mewn gwahanol rolau, sectorau a diwydiannau er mwyn
cyflawni nodau cyffredin. Mae’r meysydd sy'n bwysig i mi yn cynnwys
democratiaeth, tegwch a sut rydym yn cynyddu ffyniant a llesiant o fewn byd
naturiol ffyniannus. Mae gen i ddiddordeb penodol yn y ffordd y gallwn
ddefnyddio arloesi cymdeithasol i hyrwyddo datrysiadau gwell i'r amryfal
argyfyngau y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu. Mae heriau mawr i'w datrys yn y
tymor byr a'r tymor hir, yn enwedig yng nghyd-destun yr argyfwng natur a
hinsawdd. Mae yna gyfleoedd hefyd. Edrychaf ymlaen at weithio gydag eraill i
fynd i'r afael â’r heriau dan sylw a sicrhau cyfleoedd i Geredigion Penfro ac i
Gymru.
Hanes personol
Mae fy nghartref
yn Aberteifi, y dref lle cefais fy magu a lle’r es i’r ysgol. Astudiais hanes
yng Ngholeg Emmanuel yng Nghaergrawnt, cyn astudio ar gyfer gradd MSc mewn
Astudiaethau Datblygu yn Ysgol Economeg Llundain. Ym 1999, symudais i Gaerdydd
i wneud fy swydd barhaol gyntaf, gan ymuno â thîm ymchwil cyntaf Plaid Cymru
yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr oedd ar y pryd. Bûm yn byw yng
Nghaerdydd gyda fy mhartner tan 2000, pan benderfynais ddychwelyd i orllewin
Cymru. Y tu hwnt i fy ngwaith, rwy'n mwynhau ystod eang o weithgareddau, gan
gynnwys cymryd rhan mewn chwaraeon, treulio amser yn harddwch yr awyr agored, a
chymryd rhan ym myd cyffrous y celfyddydau a diwylliannol lleol, yn bennaf o'r
gynulleidfa.
Cefndir
proffesiynol
Mae fy nghefndir
mewn polisi cyhoeddus ac arloesi cymdeithasol. Mae gen i rôl anrhydeddus fel
Arloeswr Preswyl ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) ym
Mhrifysgol Caerdydd. Yn flaenorol, roeddwn yn gweithio i’r Gwaddol Cenedlaethol
ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau (NESTA), sef asiantaeth
arloesi'r DU sy’n hyrwyddo lles cymdeithasol, a hynny fel Rheolwr Cymru ar
gyfer y Gynghrair dros Dystiolaeth Ddefnyddiol. Roeddwn yn Gynghorydd
Cymrodoriaeth dros Gymru ar gyfer yr RSA rhwng 2023 a 2025, ac rwyf wedi bod yn
aelod o Gyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi, sy’n cynghori Llywodraeth Cymru. Yn
sgil bod yn gyfarwyddwr strategaeth a datblygu sector yng Nghyngor Gweithredu
Gwirfoddol Cymru am bron i saith mlynedd, gwelais y cyfraniad enfawr y mae
sefydliadau gwirfoddol a chymunedol yn ei wneud yng Nghymru. Gwelais hyn hefyd
yn fy rôl fel cyfarwyddwr polisi a chyfathrebu Cyngor Ffoaduriaid Cymru, ac yn
ddiweddarach fel Cadeirydd y sefydliad, yn ogystal â thrwy wneud cyfraniad
gwirfoddol at waith sawl grŵp
lleol a chenedlaethol. Rwyf wedi cefnogi nifer o sefydliadau gwirfoddol, yn
ogystal â
Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fel ymgynghorydd. Rwyf wedi cyhoeddi gwaith
ar ddatganoli, cymdeithas sifil a'r gwasanaeth sifil yng Nghymru, yn ogystal ag
ar gyfiawnder cymdeithasol a chynaliadwyedd.
Hanes
gwleidyddol
Roeddwn yn aelod
o dîm ymchwil cyntaf Plaid Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol cyntaf Cymru ym
1999, dan arweiniad Cynog Dafis AC a Lila Haines. Yn ddiweddarach, gweithiais
fel cynghorydd arbennig i Aelodau Cabinet Plaid Cymru o Lywodraeth Cymru’n Un
rhwng 2008 a 2011. Ers hynny, rwyf wedi gweithio i Llyr Gryffudd AS fel
cynghorwr polisi ym maes cymunedau cynaliadwy, ac yn ddiweddarach i Siân
Gwenllian AS, yn rhinwedd ei rôl fel llefarydd tai.