Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Mae gan Becca
ddiddordeb mawr mewn cyfiawnder cymdeithasol a thlodi, yn enwedig mewn
perthynas â datblygiad plant; canolbwyntiodd ei thraethawd hir ar “effeithiau
amddifadedd cymdeithasol-economaidd ar iechyd plentyn”.
Hanes personol
Cafodd Becca ei
geni a’i magu yn Wrecsam, lle mynychodd ysgolion lleol cyn mynd ymlaen i Goleg
yr Iâl ac yna ennill gradd anrhydedd mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar o
Brifysgol Glyndŵr. Mae Becca yn byw gyda’i phartner Mike a’i mab Charlie.
Cefndir
proffesiynol
Gweithiodd Becca
mewn siop gemwaith annibynnol yn Wrecsam am 21 mlynedd ac fel cynghorydd sir ar
Gyngor Wrecsam am bum mlynedd cyn cael ei hethol i’r Senedd.
Hanes
gwleidyddol
Daeth Becca yn
gynghorydd sir Plaid Cymru ar Gyngor Wrecsam yn cynrychioli ward Maesydre mewn
is-etholiad ym mis Mawrth 2021. Cafodd ei hail-ethol i gynrychioli ward gyfunol
newydd Acton a Maesydre yn etholiadau lleol 2022. Daeth Becca yn bedwerydd yn
etholiad cyffredinol San Steffan yn Wrecsam yn 2024 ac wedyn ei hethol i’r
Senedd yn 2026.