Pobl y Senedd

Cai Parry-Jones AS

Cai Parry-Jones AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Reform UK

Grŵp Reform UK Wales

Caerdydd Ffynnon Taf

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Cai Parry-Jones AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Dyfarnwyd imi ysgoloriaeth James Pantyfedwen i astudio gradd meistr mewn Economeg a Gwyddor Data ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Cynrychiolais Brifysgol Caergrawnt ym mhencampwriaethau econometreg y byd yn Amsterdam.

Cefais Radd Dosbarth Cyntaf mewn Economeg ym Mhrifysgol Caerwysg.

Cyrhaeddais rownd derfynol hacathon byd-eang Hays a Manchester City FC 2023.

Hanes personol

Cefais fy ngeni ym Mangor a thyfais i fyny ar fferm fy nheulu yn Ynys Môn. Roedd fy nhad yn ffermwr ac yn borthor i'r GIG, ac mae fy mam yn seicolegydd i'r GIG. Mynychais ysgol wladol Ysgol Gyfun Llangefni hyd at Lefel A, gan ennill graddau uchel a oedd yn cynnwys A* ar gyfer Safon Uwch Mathemateg. Yna mynychais Brifysgol Caerwysg, lle cefais radd dosbarth cyntaf mewn Economeg yn 2017. Bron i ddegawd yn ddiweddarach, dyfarnwyd imi ysgoloriaeth James Pantyfedwen, felly dychwelais i fyd academia i astudio gradd meistr mewn Economeg a Gwyddor Data ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Cefndir proffesiynol

Gweithiais am sawl blwyddyn fel gweithiwr proffesiynol data cyn imi gael fy ethol. Rheolais fy nghwmni ymgynghori data fy hun, sef Cai Data Ltd. Roedd y cleientiaid yn cynnwys Revolut, sef banc rhyngwladol a chwmni technoleg preifat mwyaf gwerthfawr Ewrop. Roeddwn i hefyd yn rhedeg blog data technegol poblogaidd ar Medium: https://medium.com/@caiparryjones96

Hanes gwleidyddol

Roeddwn yn Ddirprwy Gadeirydd ar gyfer cangen Bangor Conwy Môn o Reform UK rhwng Medi 2025 a Mai 2026.

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Digwyddiadau calendr: Cai Parry-Jones AS