Roedd Carwyn Jones yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.
Hanes personol
Cafodd Carwyn Jones ei eni yn Abertawe a’i fagu ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan deulu o siaradwyr Cymraeg. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac yna aeth i astudio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.
Cefndir proffesiynol
Hyfforddodd Carwyn fel bargyfreithiwr yn Ysgol y Gyfraith, Neuaddau'r Brawdlys Llundain ac fe'i alwyd i’r Bar yn Gray's Inn ym 1989. Dechreuodd arfer ei grefft fel bargyfreithiwr a bu mewn practis cyfreithiol am 10 mlynedd yn Siambrau Gŵyr, Abertawe. Am ddwy flynedd, bu Carwyn hefyd yn gweithio fel tiwtor proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd ar Gwrs Galwedigaethol y Bar.
Hanes gwleidyddol
Etholwyd Carwyn Jones i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Ym mis Chwefror 2000, cafodd ei benodi’n Ddirprwy Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Thir. Cafodd ei benodi yn Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ym mis Gorffennaf 2000 ac, ym mis Chwefror 2002, daeth yn Weinidog dros Lywodraeth Agored, a bu yn swydd honno tan etholiad 2003.
Ar ôl yr etholiad hwnnw, daeth yn Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, gan ddal y swydd honno tan fis Mai 2007. Yn dilyn cyfnod byr fel y Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg, daeth yn Gwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ.
Daeth yn Brif Weinidog ac Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2009.