Cafodd Catherine
ei geni yng nghymoedd de Cymru. Fe’i hetholwyd i’r Senedd yn 2026 i gynrychioli
Blaenau Gwent, Caerffili a Rhymni.
Gweithiodd ym
meysydd gweithgynhyrchu, yr amgylchedd ac iechyd a diogelwch cyn dod yn
athrawes ysgol uwchradd cemeg, ffiseg a bioleg. Mae hi wedi hyfforddi athrawon
yn dod drwy’r system brifysgolion ac mae hi hefyd yn arbenigo mewn anghenion
dysgu ychwanegol. Mae ganddi radd mewn bioleg a cherddoriaeth a gradd meistr
mewn anghenion dysgu ychwanegol, ynghyd â gradd yn y clasuron.
Ei diddordebau
yw’r blynyddoedd cynnar, plant, pobl ifanc ac addysg, gweithgynhyrchu, gofal yr
henoed, gwasanaethau mabwysiadu, gwasanaethau caethiwed, gwasanaethau iechyd
a’r celfyddydau cymunedol. Mae hi’n eirioli dros ryddid mynegiant, ffydd a
diogelwch menywod a phlant.
Mae Catherine yn
byw gyda’i gŵr,
chwech o blant a llawer o anifeiliaid.