Pobl y Senedd

Cefin Campbell AS

Cefin Campbell AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Canolbarth a Gorllewin Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Cefin Campbell AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Ar ôl gadael y brifysgol bu Cefin yn dysgu Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe cyn cael ei benodi fel darlithydd Iaith, Llenyddiaeth Gymraeg a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Sefydlodd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghymru – erbyn hyn mae 22 o Fentrau Iaith ledled Cymru. Bu’n aelod o Awdurdod S4C a Bwrdd Llywodraethwyr Coleg Sir Gâr yn ogystal â gweithredu fel ymgynghorydd iaith i Bòrd na Gàidhlig  yn yr Alban. Bu hefyd yn arolygydd trwyddedig i Estyn ac yn gadeirydd ar nifer o fyrddau llywodraethol ysgolion. Yn ystod ei gyfnod fel aelod o Gabinet Cyngor Sir Gâr fe gadeiriodd grŵp traws bleidiol a ddatblygodd strategaeth gynhwysfawr i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y Cyngor, strategaeth i adfywio Sir Gâr wledig, cynllun arloesol i daclo tlodi, cynllun gweithredu i sicrhau bod Cyngor Sir Gâr yn cyrraedd net-sero carbon erbyn 2035 a llunio adroddiad i fynd i’r afael â hiliaeth a gwahaniaethu. Yn ei amser hamdden mae’n hoffi gwylio’r Sgarlets, cefnogi tîm pêl droed Abertawe, pysgota a charafanio!

Hanes personol

Mae’n briod a ganddo dair o ferched. Mae’r hynaf yn newyddiadurwraig, yr ail yn y Brifysgol yng Nghaerdydd ac yn gyn-aelod o Senedd Ieuenctid Cymru a’r ifancaf yn astudio ar gyfer ei lefel A. Mae’n byw yn Gelli Aur yn Nyffryn Tywi ond cafodd ei eni a’i fagu yn Nyffryn Aman. Roedd llawer o deulu ei dad yn lowyr, gan gynnwys ei dad-cu ond ffermwyr oedd bron y cyfan o deulu ei fam. Mae’n teimlo’n freintiedig ei fod wedi etifeddu traddodiadau dau o brif ddiwydiannau Cymru!

Cefndir proffesiynol

Ar ôl gorffen ei MA cafodd Cefin Campbell ei benodi fel darlithydd Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ddiweddarach fel darlithydd mewn Cymraeg, Llenyddiaeth Gymraeg a Hanes Cymru yn Adran Addysg Barhaus i Oedolion, Prifysgol Caerdydd. Gadawodd y sector addysg uwch yn 1991 i sefydlu’r Fenter Iaith gyntaf yng Nghymru, sef Menter Cwm Gwendraeth cyn symud ymlaen sefydlu Mentrau Iaith ym mhob cwr o Cymru. Yn 2008, sefydlodd fusnes ymgynghorol o’r enw Sbectrwm oedd yn arbenigo mewn ymchwil, cynllunio strategol, rheoli prosiectau a hyfforddiant gan weithio i rai o gyrff mwyaf blaenllaw Cymru. Bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr ar y cwmni tan iddo gael ei ethol i chweched Senedd Cymru ym mis Mai 2021.

Hanes gwleidyddol

Roedd Cefin yn Gynghorydd Sir ar Gyngor Sir Caerfyrddin rhwng 2012 a 2022 ac yn aelod o Gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin gyda chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig a Chymunedau rhwng 2017 a 2021. Cafodd ei ethol i’r Senedd yn 2021 fel aelod rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

Arall

Bu Cefin yn llefarydd grŵp Plaid Cymru ar Faterion Gwledig ac Amaethyddiaeth yn flaenorol. Ym mis Ionawr 2022 fe’i penodwyd yn Aelod Dynodedig yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae ganddo hefyd ddiddordeb mewn cefnogi deddfwriaeth i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi, mewn trechu tlodi a chreu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/08/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Cefin Campbell AS