Pobl y Senedd

Claire Archibald AS

Claire Archibald AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Reform UK

Grŵp Reform UK Wales

Ceredigion Penfro

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Claire Archibald AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae gan Claire ddiddordeb amlwg mewn cefnogi cymunedau lleol a helpu pobl i oresgyn heriau yn eu bywydau bob dydd. Ar ôl gweithio fel gofalwr yn y gorffennol, mae hi wedi datblygu gwerthfawrogiad penodol o bwysigrwydd cefnogaeth dosturiol a rhwydweithiau cymunedol cryf. Mae hi'n angerddol am wasanaeth cyhoeddus, yn gwerthfawrogi cysylltiadau teuluol a chymunedol, ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn cael cymorth ymarferol pan fyddant ei angen fwyaf.

Hanes personol

Cyn cael ei hethol i'r Senedd, roedd Claire yn weithgar yn ei chymuned a'i heglwys leol, ac yn hyn o beth lluniwyd ei diddordeb penodol mewn gwasanaethau cymunedol. A hithau’n fam sy'n gweithio ac wedi magu tri o blant, ac wedi gofalu am ei rhieni nes eu marwolaeth, mae bywyd a gyrfa Claire wedi’i wreiddio’n ddwfn ym maes iechyd a gofal cymdeithasol erioed.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol am sawl blwyddyn, dychwelodd Claire i'r sector ar ôl magu ei thri o blant. Roedd Claire yn gweithio mewn cartrefi gofal cyn ymuno â thîm cefnogaeth gofal iechyd cymunedol y GIG a oedd yn darparu gofal lliniarol i gleifion yn eu cartrefi eu hunain, ynghyd â gwneud gwaith wrth gefn yn yr ysbyty. Roedd Claire hefyd yn ofalwr di-dâl i'w dau riant nes iddynt farw, a rhoddodd hyn brofiad personol a phroffesiynol iddi o'r heriau sy'n wynebu gofalwyr a theuluoedd. Mae'n angerddol am fod yn weladwy ac yn hygyrch iawn, yn gwrando ar bobl ac am helpu pobl i lywio drwy broblemau sy'n effeithio ar eu bywydau.

Hanes gwleidyddol

Daeth Claire yn gynghorydd tref dros Gil-maen ar gyngor tref Penfro ar ôl cael ei chyfethol yn 2025. Cafodd ei hethol yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth newydd Ceredigion Penfro yn etholiad y Senedd 2026 ac wedi hynny daeth yn Weinidog Cabinet yr Wrthblaid dros Ofal Cymdeithasol Reform UK.

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Digwyddiadau calendr: Claire Archibald AS