Pobl y Senedd

Dafydd Trystan Davies AS

Dafydd Trystan Davies AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Caerdydd Ffynnon Taf

Y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad

Y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Dafydd Trystan Daviesyn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Dafydd Trystan Davies yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: 


Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Dafydd Trystan Davies AS

Bywgraffiad

Y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad

Ganwyd Dafydd Trystan Davies yn Aberdâr ym 1974 ac mae bellach yn byw yn Grangetown, Caerdydd. Yn ymgyrchydd cymunedol a gwirfoddolwr ers blynyddoedd gyda record nodedig ac arobryn o wasanaeth cyhoeddus a gwirfoddol, aeth i Ysgol Rhydfelen cyn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle enillodd ddoethuriaeth ym maes globaleiddio ac economi Cymru. Aeth ymlaen i weithio fel darlithydd gwleidyddiaeth ac etholiadegwr yn Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru Aberystwyth ac wedi hynny cafodd ei benodi’n Gofrestrydd yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol pan gafodd ei sefydlu.

Mae Dafydd wedi treulio llawer o'i yrfa wleidyddol yng nghanol sefydliad cenedlaethol Plaid Cymru. Gwasanaethodd fel Prif Weithredwr y blaid rhwng 2002 a 2007, ac yn ddiweddarach fel Cadeirydd Cenedlaethol rhwng 2013 a 2016. Fel Cadeirydd cyntaf y Llywodraethwyr yn Ysgol Hamadryad, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Butetown, de Caerdydd, llywiodd Dafydd yr ysgol i gael ei chydnabod fel yr ysgol gyntaf yng Nghymru sydd â theithio llesol fel rhan o’i dyluniad, gan gyflwyno parth di-geir a bysiau cerdded fel rhan o'i chynllun teithio i’r ysgol. Arweiniodd y gwaith hwnnw at ei benodi'n Gadeirydd Bwrdd Teithio Llesol annibynnol Llywodraeth Cymru yn 2019, rôl y cafodd ei ailbenodi iddi yn ddiweddarach. Bu hefyd yn aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru rhwng 2019 a 2025.

Yn etholiad y Senedd 2026, etholwyd Dafydd yn Aelod o'r Senedd dros Gaerdydd Ffynnon Taf. Cafodd ei benodi’n Weinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad ar 13 Mai 2026. Mae wedi ymrwymo i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol yn unig ar gyfer dyletswyddau ei etholaeth yn y Senedd, gan gofnodi unrhyw ddefnydd o geir fel eithriad. Mae ei feysydd arbenigedd yn cynnwys y cyfansoddiad, addysg, a theithio llesol.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Digwyddiadau calendr: Dafydd Trystan Davies AS