Roedd Dai Lloyd yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol
Cymru rhwng Mai 1999 a Mawrth 2011 a unwaith eto rhwng Mai 2016 ac Ebrill
2021.dai Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.
Prif ddiddordebau a
chyflawniadau
Mae diddordebau gwleidyddol Dai Lloyd yn naturiol ym meysydd iechyd a
llywodraeth leol. Dai yw Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg y Login
Fach. Mae hefyd yn bregethwr lleyg, ac yn pregethu'n rheolaidd mewn capeli
ledled Prydain.
Hanes personol
Ganed Dai Lloyd ym 1956 yn Nhywyn, Gwynedd. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol
Uwchradd Llanbedr Pont Steffan, ac aeth ymlaen i astudio yn y Coleg Meddygaeth
yng Nghaerdydd.
Cefndir proffesiynol
Ar ôl graddio, daeth Dai Lloyd yn feddyg teulu yn Abertawe. Cyn dod yn
Aelod Cynulliad, roedd yn Gynghorydd Sir yn Ninas a Sir Abertawe.
Hanes gwleidyddol
Roedd Dai Lloyd yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru rhwng
1999 a 2011. Yn ystod ei gyfnod fel Aelod Cynulliad, gwasanaethodd Dai fel
Gweinidog Cyllid yr Wrthblaid a llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder
Cymdeithasol, Llywodraeth Leol ac Adfywio.
Cafodd ei ailethol i’r Cynulliad yn 2016.