Pobl y Senedd
Elyn Stephens AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Plaid Cymru
Grŵp Plaid Cymru
Afan Ogwr Rhondda
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7362
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Elyn Stephens AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae diddordebau gwleidyddol Elyn yn cynnwys mynd i’r afael â thlodi plant, cefnogi diwylliant, ac ehangu mynediad at sgiliau a dysgu oedolion. Mae hi’n arbennig o angerddol am sicrhau bod pawb yn cael y cymorth, yr adnoddau a’r cyfleoedd y mae eu hangen arnynt i ffynnu, yn enwedig pobl anabl mewn addysg ac yn y gweithle. Fel cynghorydd newydd ei hethol yn Rhondda Cynon Taf, dechreuodd Elyn gynllun i ddarparu cynhyrchion mislif am ddim mewn ysgolion. Cefnogwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru fel cynllun peilot ac fe’i cyflwynwyd ledled Cymru yn ddiweddarach. Mae hi’n falch ei bod wedi helpu i droi syniad lleol ymarferol yn bolisi cenedlaethol sy’n cefnogi urddas, cydraddoldeb a llesiant i bobl ifanc. Wrth wraidd gwaith Elyn mae cred mewn tegwch, cynhwysiant a phwysigrwydd cael gwared ar rwystrau sy’n atal pobl rhag cyrraedd eu potensial.
Hanes personol
Yn wreiddiol o Dreherbert yn Rhondda Fawr, mae Elyn yn parhau i fyw yno. Mae ei gwreiddiau yn y Rhondda wedi llunio ei gwerthoedd a’i hymrwymiad i gynrychioli cymunedau gyda balchder, gonestrwydd a phenderfyniad. Wrth dyfu i fyny, roedd Elyn yn ofalwr ifanc i’w mam, ochr yn ochr â’i chwiorydd. Rhoddodd y profiad hwn ddealltwriaeth gynnar iddi o gyfrifoldeb, teulu, a phwysigrwydd sicrhau bod cymorth ar gael pan fydd ei angen fwyaf ar bobl. Roedd rhieni Elyn yn gefnogwyr brwd o’r Gymraeg a dewison nhw addysg cyfrwng Cymraeg ar ei chyfer, cyfle na chawson nhw. Oherwydd y profiad hwnnw, mae Elyn yn gwerthfawrogi pwysigrwydd mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg a’r angen i sicrhau bod y cyfle hwnnw ar gael i bob cenhedlaeth. Mae Elyn yn fenyw fyddar ac mae ganddi brofiad personol helaeth o lywio byd nad oedd yn ystyriol o’i hanghenion. Yn anffodus, fel plentyn, ni chafodd Elyn gyfle i ddysgu arwyddo. Mae hyn wedi llunio ei hymrwymiad i sicrhau bod pobl anabl yn cael y cymorth, yr addasiadau a’r adnoddau y mae eu hangen arnynt i ffynnu, yn enwedig mewn addysg a chyflogaeth. Y tu allan i wleidyddiaeth, mae Elyn yn perfformio gyda Chymdeithas Theatr Gerddorol Selsig a Chôr Godre’r Garth. Mae hi’n ddarllenydd brwd o ffuglen hanesyddol ac yn aelod balch o’r Wal Goch. Graddiodd Elyn o Brifysgol Aberystwyth gyda BA yn y Gymraeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae ganddi Ddiploma Addysg Uwch mewn Cerddoriaeth a chyn cael ei hethol i’r Senedd, roedd hi’n astudio ar gyfer MBA gyda’r Brifysgol Agored.
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei hethol i’r Senedd, magodd Elyn brofiad eang o ran gwasanaeth cyhoeddus, addysg a gwleidyddiaeth. Gweithiodd fel gweithiwr achos ac yn ddiweddarach fel Rheolwr Swyddfa ar gyfer Jill Evans ASE, gan gefnogi etholwyr ac ennill profiad gwerthfawr o gynrychiolaeth, eiriolaeth a pholisi cyhoeddus ar lefel Ewropeaidd. Yn ddiweddarach, gweithiodd Elyn fel Hyfforddwr Gwaith i’r Adran Gwaith a Phensiynau, gan gefnogi pobl i lywio systemau cyflogaeth a lles. Gweithiodd hefyd fel Rheolwr Swyddfa i Heledd Fychan AS ac fel Uwch-gynorthwyydd Dysgu i’r Brifysgol Agored. Ar draws y rolau hyn, datblygodd Elyn brofiad mewn gwaith achos, cyfathrebu, datrys problemau a chefnogi pobl drwy systemau cymhleth. Mae hi’n gweithio mewn ffordd gymedrol, mae hi’n weithgar, ac mae ganddi brofiad ymarferol ac ymrwymiad cryf i wasanaeth cyhoeddus.
Hanes gwleidyddol
Ers amser maith, mae diddordeb gan Elyn mewn materion cyfoes, ond dyfnhaodd ei dealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru yn ystod ymgyrch refferendwm 2011 ar bwerau ychwanegol i Gymru. Wrth astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth i ddigwyddiad hustings a chafodd ei tharo gan gryfder yr achos dros sicrhau mwy o bwerau i Gymru yn y dyfodol. Gyda’r profiad hwnnw, aeth o fod yn arsylwr goddefol i gymryd rhan weithredol. Dechreuodd osod posteri ymgyrchu o amgylch neuaddau prifysgol ac yn ddiweddarach ymunodd â Phlaid Cymru yn ystod ymgyrch arweinyddiaeth 2012, gan bleidleisio yn yr etholiad hwnnw. Etholwyd Elyn yn gynghorydd Plaid Cymru ar gyfer ward Ystrad yn Rhondda Cynon Taf, gan wasanaethu rhwng 2017 a 2022. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gweithio ar faterion lleol ac ymgyrchoedd cymunedol, gan gynnwys cadeirio Grŵp Gweithredu Llifogydd y Gelli, arwain ymgyrch lwyddiannus i atal gwerthu tir gwyrdd yn y ward, cychwyn cynllun bwyd lleol i gysylltu a hyrwyddo cyflenwyr lleol ledled RhCT, a chychwyn y cynllun cynhyrchion mislif am ddim mewn ysgolion. Fel cynrychiolydd Plaid Cymru dros Afan Ogwr Rhondda, mae Elyn wedi ymrwymo i sefyll i fyny dros ei chymunedau, cryfhau democratiaeth Cymru, a gweithio dros Gymru decach a mwy cynhwysol.
Arall
Mae bywyd a gwaith Elyn wrth wraidd cymunedau, diwylliant a chynhwysiant. Mae ei chyfranogiad mewn theatr gerddorol a chanu corawl yn adlewyrchu ei chred ym mhwysigrwydd y celfyddydau a diwylliant wrth ddod â phobl ynghyd, magu hyder a chryfhau hunaniaeth leol. Mae ei phrofiad ei hun fel menyw fyddar hefyd wedi rhoi dealltwriaeth ddofn iddi o’r rhwystrau y gall pobl anabl eu hwynebu mewn bywyd bob dydd. Mae Elyn yn benderfynol o ddefnyddio’r profiad hwnnw’n adeiladol, gan eirioli am well cefnogaeth, mwy o hygyrchedd a systemau sydd wedi’u cynllunio o amgylch anghenion pobl. I Elyn, mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â gwneud newidiadau ymarferol sy’n gwella bywydau pobl, gan sicrhau bod gan gymunedau ledled Afan Ogwr Rhondda lais cryf dros ddyfodol Cymru.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 08/05/2026 -