Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
A minnau’n
feddyg, mae gen i ddiddordeb mawr yn amlwg mewn diwygio'r GIG a’i droi’n
sefydliad ar gyfer yr 21ain ganrif, er lles cleifion a’r genedl.
Hanes personol
Rwy'n briod â Dr.
Safa Elhassan, sydd hefyd yn Aelod o'r Senedd, ac mae gen i dri o blant.
Cefndir
proffesiynol
Ar ôl gadael
Ysgol Gyfun Ystalyfera, astudiais feddygaeth yng Ngholeg y Brenin yn Llundain
cyn dychwelyd i Gymru i arbenigo ym maes Llawfeddygaeth Offthalmig, gan
ddychwelyd i Ysbyty Llygaid Moorfields i dderbyn cymrodoriaeth ym maes Retina
Meddygol. Yn offthalmolegydd ymgynghorol yn Ysbyty Singleton yn Abertawe ers
2016, rwyf wedi gwasanaethu fel Llywydd Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yng
Nghymru ac fel Pennaeth Ysgol ar gyfer offthalmoleg cyn ymuno â'r Senedd.
Hanes
gwleidyddol
Cyn ymgeisio ar
gyfer y Senedd yn etholaeth fy nghartref, Gŵyr Abertawe, yn 2026, ymgeisiais ddwywaith
ar gyfer San Steffan yng Ngorllewin Abertawe.
Arall
Rwy'n mwynhau
heicio, fel un sydd wedi cwblhau Llwybr Arfordirol Cymru a Llwybr Clawdd Offa,
yn ogystal â darllen ac ysgrifennu.