Pobl y Senedd
Hefin David AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Llafur Cymru
Grŵp Llafur Cymru
Caerffili
Comisiynydd
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
Bargoed YMCA
Aeron Place
Gilfach
Bargoed
CF81 8JA
Swyddfa
01443 838542
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7154
E-bost
Hefin.David@senedd.cymru
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Hefin David AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Fel Aelod o’r Senedd, mae diddordebau Hefin David ym maes datblygu a thwf cwmnïau bach, cyflogaeth a chyflogadwyedd, mynediad i addysg bellach ac uwch i'r rheini ag anghenion ychwanegol a datblygu cymunedau'r Cymoedd. Mae ganddo ddiddordeb mewn tai, gan gynnwys diwygio rhydd-ddaliadol/prydlesol, a diwygio'r system gynllunio. At hynny, mae ganddo ddiddordeb yn effeithiau hirdymor y Coronafeirws (COVID hir) ar unigolion. Mae gan Hefin radd BScEcon mewn Economeg a Gwleidyddiaeth a gradd MScEcon mewn Polisi Ewropeaidd, y naill a’r llall o Brifysgol Caerdydd. Mae ganddo hefyd Dystysgrif Addysg i Raddedigion o Brifysgol De Cymru, a Doethuriaeth o Brifysgol Sir Gaerloyw. Mae Hefin yn un o gymrodorion yr Higher Education Academy (FHEA) ac yn aelod cyswllt academaidd o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).
Hanes personol
Cafodd Hefin ei eni a'i fagu yn etholaeth Caerffili, lle y mae'n byw hyd heddiw. Mae'n llywodraethwr dwy ysgol ac yn ymddiriedolwr Canolfan Glowyr Caerffili er y Gymuned.
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei ethol i’r Senedd, roedd Hefin yn Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd yn dysgu Rheoli Adnoddau Dynol ac Ymarfer Proffesiynol i israddedigion a graddedigion, gan ganolbwyntio ar gyflogadwyedd. O ran gwaith ymchwil, roedd Hefin yn ymddiddori mewn cyflogadwyedd a thwf mewn busnesau bach ac roedd ei ddoethuriaeth yn ystyried y penderfyniadau cynnar o ran cyflogaeth a wneir gan unigolion sy'n berchen ar fusnesau bach ac yn eu rheoli. Mae ganddo brofiad o weithio ac addysgu yn yr Almaen, gwlad Groeg, India a Tsieina.
Hanes gwleidyddol
Cafodd Hefin ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn isetholiad ym mis Mawrth 2007 a bu’n gwasanaethu’n barhaus tan iddo roi’r gorau i’r rôl yn etholiadau llywodraeth leol 2017. Ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau rhwng 2012 a 2016, a bu'r Pwyllgor yn trafod nifer o faterion o ddiddordeb i'r cyhoedd yn ystod y cyfnod hwnnw, gan gynnwys lliniaru effeithiau mwyaf difrifol y dreth ystafell wely a lleihau'r defnydd o lety gwely a brecwast i gartrefu pobl mewn argyfwng.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 06/05/2016 - 28/04/2021
- 08/05/2021 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Seneddau Blaenorol
Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)