Archwilydd Cyffredinol Cymru o fis Hydref 2010 hyd at ei
ymddeoliad ar 20 Gorffennaf 2018 oedd Huw Vaughan Thomas. Roedd ei swydd yn
annibynnol ar y llywodraeth. Nid oedd yn was sifil a chafodd ei benodi gan y
Frenhines.
Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilydd allanol
statudol y rhan fwyaf o’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn golygu ei
fod yn archwilio cyfrifon cynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol, yr
heddlu, yr awdurdodau tân ac achub, y parciau cenedlaethol a’r cynghorau
cymuned, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus a noddir ganddi ac
sy’n gysylltiedig â hi, Comisiwn y Cynulliad a chyrff y Gwasanaeth Iechyd
Gwladol.
Mae rôl yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnwys archwilio
sut y mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys
sicrhau gwerth am arian wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r Archwilydd
Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiadau ar y gwaith hwnnw, a chaiff rhai ohonynt eu
hystyried gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae
hefyd yn rhoi adroddiad blynyddol ar sut mae awdurdodau lleol unigol yn
cynllunio ar gyfer gwella.
Sefydlwyd Swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn 2005 a
gall unigolyn ddal y swydd hon am uchafswm o wyth mlynedd.
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn mynd i gyfarfodydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn
eistedd nesaf at y Cadeirydd yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor. Mae’r trefniant
hwn yn pwysleisio rôl yr Archwilydd Cyffredinol fel y prif gynghorydd i’r
Pwyllgor, ac mae’n egluro pwysigrwydd y rôl honno. Mae hefyd yn helpu i
hwyluso’r cyfleoedd i’r Archwilydd Cyffredinol wneud cyfraniadau priodol yn
rhwyddach yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor.