Pobl y Senedd
Iain McIntosh AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Reform UK
Grŵp Reform UK Wales
Brycheiniog Tawe Nedd
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 6571
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Iain McIntosh AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Cefais fy ethol yn Aelod o’r Senedd dros etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd ym mis Mai 2026, yn cynrychioli plaid Reform UK. Cyn hynny bûm yn gwasanaethu am bron i naw mlynedd fel cynghorydd sir yng Nghyngor Sir Powys, gan gynrychioli ward Yscir gyda Honddu Isaf a Llanddew. Drwy gydol fy amser mewn gwasanaeth cyhoeddus, rwyf wedi dangos diddordeb cryf mewn addysg, seilwaith gwledig, cynllunio, tai, cymorth busnes a diogelu cymunedau lleol. Rwyf wedi cydweithio'n agos â thrigolion ar ystod eang o faterion sy'n effeithio ar Ganolbarth Cymru ac ardaloedd cyfagos, gan gynnwys darpariaeth band eang mewn ardaloedd gwledig, llywodraethiant ysgolion a datblygiadau ynni mawr. Rwyf hefyd wedi cefnogi nifer o elusennau lleol, grwpiau cymunedol a mentrau codi arian dros nifer o flynyddoedd.
Hanes personol
Rwyf wedi byw a gweithio yn Aberhonddu am y rhan fwyaf o’m mywyd. Rwy'n briod â'm gwraig, Dawn, ac rydym wedi treulio degawdau gyda’n gilydd yn gwasanaethu cwsmeriaid a chymunedau ledled Canolbarth a De Cymru drwy fusnes a gwasanaeth cyhoeddus. Rwyf bob amser wedi dangos diddordeb cryf mewn cefnogi cymunedau, diogelu gwasanaethau lleol a hyrwyddo canol trefi a strydoedd mawr ffyniannus.
Cefndir proffesiynol
Cyn dod yn Aelod o'r Senedd, treuliais tua 40 mlynedd yn gweithio yn y sector masnachu a manwerthu lloriau. Roeddwn yn gweithio i fanwerthwr carpedi a lloriau yn Aberhonddu am bron i wyth mlynedd, cyn sefydlu ein busnes teuluol, Young's of Brecon, gyda fy ngwraig ym 1994. Dros gyfnod o fwy na thri degawd, mae'r busnes wedi meithrin enw da ledled De Cymru, gan wasanaethu cwsmeriaid domestig a masnachol. Mae’r rhain yn cynnwys y GIG, y Weinyddiaeth Amddiffyn, yr heddlu, awdurdodau tân, cwmnïau adeiladu a busnesau preifat. Mae fy nghefndir ym myd busnes wedi rhoi profiad uniongyrchol i mi o'r heriau a wynebir gan gyflogwyr, pobl hunangyflogedig a theuluoedd sy'n gweithio.
Hanes gwleidyddol
Cefais fy ethol fel aelod o Gyngor Sir Powys yn 2017, ac euthum ymlaen i ddal nifer o gyfrifoldebau yn y Cabinet, gan gynnwys ym maes Tai, Cynllunio, Adfywio Economaidd a Chysylltedd Rhyngrwyd. Yn ystod fy nghyfnod yn y cyngor, cynrychiolais drigolion ar ystod eang o faterion lleol, a chwaraeais ran helaeth mewn gwaith craffu, llywodraethu ac ymgyrchu cymunedol ledled Powys. Ym mis Mai 2026, cefais fy ethol yn Aelod o’r Senedd dros etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd.
Ymwneud â’r gymuned
Dros y blynyddoedd, rydw i wedi ymwneud â nifer o sefydliadau cymunedol a busnes, gan gynnwys Siambr Fasnach a Thwristiaeth Aberhonddu, lle’r oeddwn yn Gadeirydd yn flaenorol. Rwyf hefyd wedi cydweithio'n agos ag ysgolion lleol, llywodraethwyr, grwpiau gwirfoddol a chynghorau cymuned ar draws yr etholaeth.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 08/05/2026 -