Pobl y Senedd

Janet Haworth

Janet Haworth

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Janet Haworth

Bywgraffiad

Roedd Janet Haworth yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2015 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.

Hanes Personol

Mae cefndir Janet mewn addysgu a hyfforddi. Ochr yn ochr â magu tri o blant, gweithiodd mewn ysgolion uwchradd yn Llundain, Swydd Derby, Aberdeen a gogledd Cymru, yn ogystal â choleg addysg bellach yn Essex.

Gweithiodd Janet hefyd fel rheolwr personél a hyfforddiant i elusen ac i Shell Petroleum.

Yn Essex, sefydlodd Janet yr ail raglen dychwelyd i’r gwaith i fenywod yn y DU.

Yng nghanol degawd cyntaf y ganrif hon, agorodd Janet Dŷ Llety Abbey Lodge yn Llandudno, a gafodd le yn y Michelin Guide. Mae Janet wedi chwarae rhan lawn yng nghymuned busnesau bach y rhanbarth. Mae’n aelod o fwrdd gweithredol Cymdeithas Lletygarwch Llandudno, cymdeithas busnesau bach lleol. Roedd yn gyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru am bum mlynedd.

Hanes Gwleidyddol

Yn 2008, etholwyd Janet i Gyngor Tref Llandudno a Chyngor Sir Conwy, yn cynrychioli ward oedd wedi bod yn nwylo’r Blaid Lafur am dros ugain mlynedd. Ail-etholwyd Janet yn 2012 ac mae’n parhau i wasanaethu’r ardal fel Cynghorydd Sir. 

Ddechrau mis Mehefin 2015, cymerodd Janet ei sedd fel Aelod Cynulliad Rhanbarthol y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer Gogledd Cymru wedi i’r Aelod Cynulliad blaenorol ar gyfer yr ardal gael ei hethol i Senedd y DU.

Ers ei phenodi, penodwyd Janet yn llefarydd yr wrthblaid ar gyfer yr Amgylchedd ac Ynni ac mae’n aelod o Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Janet Haworth