Pobl y Senedd

Jason O'Connell AS

Jason O'Connell AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Reform UK

Grŵp Reform UK Wales

Pontypridd Cynon Merthyr

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Jason O'Connell AS

Bywgraffiad

Mae Jason O'Connell yn weithredwr profiadol gyda dros 30 mlynedd o arweinyddiaeth ar draws y sectorau peirianneg awyrofod, amddiffyn ac ynni. Mae ganddo hanes profedig o gyfrifoldeb dros elw a cholled ar gyfer portffolios gwerth miliynau o bunnoedd, arwain a datblygu timau rhyngwladol, a sicrhau gwaith hirdymor mewn diwydiannau cymhleth.

Cyn ei yrfa wleidyddol, gwasanaethodd Jason fel Rheolwr Cyffredinol mewn gwneuthurwr systemau pŵer yn y diwydiant gofod. Darparodd Jason arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol i'r busnes, ac roedd yn bennaf gyfrifol am lesiant a diogelwch economaidd cyflogeion y safle. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Rhaglen Rhyngwladol mewn corfforaeth storio ynni yn yr Unol Daleithiau. Yn gynharach yn ei yrfa, roedd gan Jason swyddi rheoli rhaglenni yn General Dynamics UK, lle bu'n rheoli prosiectau peirianneg proffil uchel ar gyfer llwyfannau milwrol. Dechreuodd ei yrfa fel Prentis Technegol sydd wedi ennill gwobrau (Fframiau Awyr a Gyriant) yng Ngweinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan yn y Barri. Cwblhaodd Jason MBA ym Mhrifysgol Dwyrain Llundain yn 2026. Mae ganddo hefyd Drwydded Peilot Preifat (UK CAA SEP) ac mae'n dad balch i ddau o blant sy'n siarad Cymraeg.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2026 -

Digwyddiadau calendr: Jason O'Connell AS