Pobl y Senedd

Jeffrey Cuthbert

Jeffrey Cuthbert

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Jeffrey Cuthbert

Bywgraffiad

Roedd Jeff Cuthbert yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2003 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Cefndir personol

Cafodd Jeff Cuthbert ei eni yn Glasgow cyn symud i Gaerdydd gyda’i rieni a chael ei addysg yn Ysgol Uwchradd Fodern Sirol yr Eglwys Newydd. Aeth ymlaen wedyn i astudio Peirianneg Mwyngloddio yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd.

Cefndir proffesiynol

Dechreuodd gyrfa Jeff yn y diwydiant mwyngloddio, ac yna bu’n gweithio i Gyd Bwyllgor Addysg Cymru fel Pennaeth yr Uned Ased i Ddiwydiant.
Mae ar Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Trinity Fields, yn Aelod o Lys Prifysgol Caerdydd a bu ar Fwrdd Rheolwyr Coleg Ystrad Mynach. Mae Jeff hefyd yn aelod corfforaethol o Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad.

Cefndir gwleidyddol

Etholwyd Jeff i’r Cynulliad am y tro cyntaf yn 2003.

Cyn cael ei benodi’n Ddirprwy Weinidog dros Sgiliau ym mis Mai 2011, bu Jeff yn gwasanaethu fel Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglen Cymru gyfan ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol. Sefydlodd a bu’n Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar yr Amgylchedd Adeiledig, y Grŵp Trawsbleidiol ar Fyw’n Iach, y Grŵp Trawsbleidiol ar Diabetes ac mae’n un o sefydlwyr ac yn gyn-gyd-gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gwrw a Thafarndai. Roedd hefyd yn aelod o Grŵp Gweithredol Cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad.

Bu Jeff yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ac mae wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol, y Pwyllgor Menter a Dysgu a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Ymgysylltiadau

Mae Jeff yn aelod o undeb UNITE, a chyn i’r Prif Weinidog ei benodi’n Ddirprwy Weinidog dros Sgiliau, bu’n gwasanaethu fel cydgysylltydd grŵp UNITE yr Aelodau Cynulliad Llafur.

Bywgraffiad fideo

 

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Jeffrey Cuthbert