Hanes Personol
Aeth Josh i Ysgol
Gyfun Basaleg, cyn mynd ymlaen i astudio’r Clasuron yn y brifysgol. Yno, bu’n
gwrando ar Goncerto Piano Rhif 2 gan Rachmaninov tra oedd yn brwydro drwy nifer
o argyfyngau ysgrifennu traethodau gydol y nos. Mae Josh yn ddinesydd o’r DU yn
gyntaf ac yn fewnfudwr yn ail, ac mae’n credu mai dim ond dinasyddion y DU
ddylai gael pleidleisio neu sefyll mewn unrhyw etholiad yn y DU.
Cefndir
proffesiynol
Yn flaenorol, bu
Josh yn gynorthwyydd addysgu, yn athro Addysg Grefyddol mewn ysgol annibynnol,
ac yn athro Ffrangeg mewn ysgol wladol. Yn ogystal, cafodd waith mewn dros
ddwsin o ysgolion ledled De Cymru drwy asiantaeth gyflenwi.
Hanes
gwleidyddol
Yn sgil ei
bryderon ynghylch mewnfudo torfol, safodd Josh fel ymgeisydd dros blaid Reform
yn etholaeth Caerffili yn Etholiad Cyffredinol 2024. Daeth yn drydydd. Roedd
Josh yn drydydd ar restr plaid Reform ar gyfer etholaeth Rhymni Caerffili
Blaenau Gwent yn etholiad y Senedd 2026. Enillodd y chweched sedd yn yr
etholaeth, a hynny o lai na 250 o bleidleisiau. Hwn oedd un o’r canlyniadau
agosaf yn yr etholiad dan sylw, ac roedd yn groes i ddisgwyliadau llawer (roedd
arolygon barn wedi awgrymu y byddai'r chweched sedd yn cael ei hennill gan y
Blaid Lafur). Mae Josh wedi priodoli’r fuddugoliaeth hon i ymdrechion
gwirfoddolwyr y gangen leol.