Pobl y Senedd

Kerry Ferguson AS

Kerry Ferguson AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Ceredigion Penfro

Dirprwy Lywydd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Kerry Ferguson AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae gan Kerry ymrwymiad hirsefydlog i ddatblygu cymunedau, addysg a chefnogi busnesau lleol. Cyn cael ei hethol i'r Senedd, bu’n gwasanaethu fel cynghorydd tref yn Aberystwyth ers 2021, gan wasanaethu fel Maer Aberystwyth yn 2023-24. Mae hi hefyd wedi chwarae rôl weithredol yng ngwaith ystod o sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, gan gynnwys Menter Aberystwyth, lle bu’n helpu i gynnal digwyddiadau a chyflawni prosiectau adfywio ledled y dref, ac fel Cyd-gadeirydd Clwb Busnes Aberystwyth rhwng 2022 a 2025. Gwasanaethodd Kerry fel Llywydd Clwb Rotari Ardal Aberystwyth yn ystod 2023–24, gan gefnogi ymdrechion elusennau i godi arian a mentrau cymunedol ar draws Aberystwyth a’r ardal. Bu hefyd yn llywodraethwr ysgol yn Ysgol Penglais ac Ysgol Plascrug.

Hanes personol

Cafodd Kerry ei geni yn Sir Ddinbych, a threuliodd ei phlentyndod cynnar ym Metws Gwerful Goch cyn symud i Gerrigydrudion. Bu Kerry yn ddisgybl yn Ysgol Cerrigydrudion, ac yna yn Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun. Symudodd Kerry i Aberystwyth i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2007. Enillodd radd BSc mewn Gwyddor Daear Amgylcheddol cyn cwblhau gradd MSc mewn Monitro a Dadansoddi Amgylcheddol. Mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Ngheredigion, ac wedi chware rôl weithredol mewn bywyd cymunedol ers blynyddoedd lawer. Mae'n angerddol am gefnogi'r cymunedau a'r busnesau sy'n cyfrannu at lwyddiant yr ardal.

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei hethol i'r Senedd, Kerry oedd sylfaenydd cwmni dwyieithog ym maes dylunio gwefannau a marchnata digidol a sefydlwyd yn Aberystwyth yn 2013. O dan ei harweinyddiaeth, tyfodd y busnes yn gwmni arobryn sy'n cefnogi sefydliadau a busnesau ledled Cymru a thu hwnt. Yn 2024, daeth Kerry yn rhan o drefniadau perchnogaeth a datblygu bragdy lleol. Ochr yn ochr â'i gyrfa fusnes, bu'n gweithio fel tiwtor yn Adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth rhwng 2022 a 2024, a bu’n fentor gyda Busnes Cymru, ac yn fodel rôl gyda menter Syniadau Mawr Cymru. Mae profiad proffesiynol Kerry yn cwmpasu entrepreneuriaeth, technoleg ddigidol, marchnata, datblygu busnes, addysg ac arweinyddiaeth gymunedol.

Hanes gwleidyddol

Etholwyd Kerry yn gynghorydd tref yn Aberystwyth yn 2021, gan wasanaethu fel Maer Aberystwyth yn 2023–24. Ym mis Mai 2026, cafodd ei hethol yn Aelod o'r Senedd, yn cynrychioli etholaeth Ceredigion Penfro.

Arall

Mae Kerry yn hoff o wylio adar a chymryd ffotograffau o fywyd gwyllt. Mae hi hefyd yn mwynhau garddio, darllen a chanu mewn côr. Mae hi'n angerddol am gadwraeth amgylcheddol, gwirfoddoli cymunedol a chefnogi diwylliant Cymru a mentrau lleol.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2026 -

Digwyddiadau calendr: Kerry Ferguson AS