Pobl y Senedd

Kiera Marshall AS

Kiera Marshall AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Caerdydd Penarth

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Kiera Marshall AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae prif flaenoriaethau Kiera yn ymwneud â phobl ifanc, menywod, tai, yr economi a chyfiawnder cymdeithasol.

Hanes personol

Magwyd Kiera yn Townhill, Abertawe. Aeth i Ysgol Bishop Gore a Choleg Gŵyr Abertawe cyn astudio Llywodraeth ac Economeg yn Ysgol Economeg Llundain. Mae’n byw yng Nghaerdydd ers 2021, ac yn 2025 croesawodd ei phlentyn cyntaf gyda'i phartner.

Cefndir proffesiynol

Dechreuodd Kiera ei gyrfa yn gweithio ym maes lletygarwch yn Abertawe, cyn gweithio i'r Gyfnewidfa Polisi Cyhoeddus tra oedd yn astudio yn Llundain. Ar ôl graddio, bu’n gweithio ym maes polisi economaidd fel ymchwilydd i Blaid Cymru ac fel Dirprwy Bennaeth Polisi i Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru.

Hanes gwleidyddol

Dechreuodd Kiera ymwneud â gwleidyddiaeth pan oedd yn ei harddegau. Bu’n gyd-gadeirydd Plaid Ifanc yn 2025-26 ac yn swyddog menywod yn 2024-25. Am sawl blwyddyn, mae wedi bod yn swyddog ieuenctid i gangen Gorllewin Caerdydd Plaid Cymru. Hi hefyd oedd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd yn Etholiad Cyffredinol y DU yn 2024. Ers cael ei hethol, mae wedi ei henwebu'n gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflogaeth Ieuenctid ac mae'n aelod o Bwyllgor Economi, Ynni a Chysylltedd a Phwyllgor Deddfwriaeth y Senedd.

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Digwyddiadau calendr: Kiera Marshall AS