Pobl y Senedd

Leighton Andrews

Leighton Andrews

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Leighton Andrews

Bywgraffiad

Roedd Leighton Andrews yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2003 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Cefndir personol

Cafodd Leighton Andrews ei eni yng Nghaerdydd a’i fagu yn y Barri a Dorset. Mae ganddo radd BA (Anrhydedd) mewn Saesneg a Hanes o Brifysgol Cymru, Bangor ac M.A. mewn Hanes o Brifysgol Sussex. Roedd Leighton yn athro gwadd ym Mhrifysgol San Steffan rhwng 1997 a 2002, ac mae’n athro er anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cefndir proffesiynol

Mae Leighton wedi gweithio fel swyddog seneddol a chyfarwyddwr ymgyrchoedd i lawer o elusennau, yn ogystal â gweithio fel ymgynghorydd materion cyhoeddus yn y sector preifat.

Ef oedd Pennaeth Materion Cyhoeddus i’r BBC rhwng 1993 a 1996, a bu’n gweithio hefyd fel darlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd. Mae’n gyn-aelod o fwrdd Tai Cymru.

Cefndir gwleidyddol

Etholwyd Leighton i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 2003. Yn ystod ei dymor cyntaf yr oedd yn aelod o’r Pwyllgorau Addysg, Diwylliant a Datblygu Economaidd. Cafodd ei ailethol ym mis Mai 2007, ac ymunodd â Llywodraeth Cymru fel y Dirprwy Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda chyfrifoldeb arbennig dros faterion tai. Pan ffurfiwyd y llywodraeth glymblaid Cymru’n Un ym mis Gorffennaf 2007, penodwyd Leighton yn Ddirprwy Weinidog dros Adfywio, yn gweithio o fewn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth ac yn yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Yn 2009, cafodd ei benodi yn Weinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. Ym mis Mai 2011, cafodd ei benodi yn Weinidog dros Addysg a Sgiliau.

Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys addysg, yr economi, diwylliant, tai, y cyfryngau, iechyd a chynhwysiant cymdeithasol.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Leighton Andrews