Pobl y Senedd

Lyn Ackerman AS

Lyn Ackerman AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Casnewydd Islwyn

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Lyn Ackerman AS

Bywgraffiad

Mae gan Lyn hanes hir o wasanaeth cyhoeddus yng nghymunedau hen etholaeth Islwyn a chymoedd ehangach y de-ddwyrain. Mae ei gwaith wedi ymdrin â thai, iechyd a gofal cymdeithasol, gwasanaethau amgylcheddol, llywodraeth leol, ac adfywio cymunedol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn sut y gellir defnyddio arian cyhoeddus yn effeithiol i wella gwasanaethau a chryfhau cymunedau. Ers iddi gael ei hethol i'r Senedd, mae Lyn wedi gwasanaethu fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid.

Cafodd Lyn ei magu yng Nghrymlyn ac mae wedi byw yn Nhrecelyn ers 1986. Aeth i Ysgol Lefel Uchel Crymlyn ac Ysgol Gyfun Trecelyn.

Mae Lyn wedi bod yn weithgar yn ei chymuned leol ers blynyddoedd lawer. Mae ei gwaith cymunedol wedi cynnwys gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol a gweithio gyda sefydliadau cymunedol a gwirfoddol lleol.

Gwasanaethodd Lyn am fwy na 15 mlynedd fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cynrychioli Trecelyn.

Yn ystod ei chyfnod ar y cyngor, roedd ganddi gyfrifoldebau uwch gan gynnwys bod yn Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd a Thai ac yn ddiweddarach Gwasanaethau Cyhoeddus a Thai. Hi hefyd oedd cadeirydd Pwyllgor Craffu Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant y cyngor.

Mae Lyn wedi cynrychioli Plaid Cymru mewn sawl etholiad. Safodd yn Islwyn yn etholiad cyffredinol y DU yn 2015 ac etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016, ac yn Nhorfaen yn etholiad y Senedd 2021.

Ym mis Mai 2026 cafodd ei hethol i'r Senedd fel Aelod Plaid Cymru dros Gasnewydd Islwyn.

Mae ei gwaith gwleidyddol wedi parhau i fod â chysylltiad agos â'r cymunedau lle y cafodd ei magu ac y mae wedi byw ynddynt am y rhan fwyaf o'i bywyd fel oedolyn, gyda ffocws penodol ar gynrychiolaeth leol ymarferol a gwasanaethau cyhoeddus.

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Digwyddiadau calendr: Lyn Ackerman AS