Manon Bonner yw Prif Weithredwr a Chlerc Senedd Cymru ac fe'i penodwyd ym
mis Ebrill 2017. Mae’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau ar
gyfer y Senedd, a’r 96 Aelod o’r Senedd, er mwyn sicrhau bod y Senedd yn
sefydliad sy’n ennyn hyder a bod ganddi enw da am ddemocratiaeth hygyrch ac
effeithlon.
Cyn ymuno â’r Senedd, roedd Manon yn Gyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a
Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, a hi gynt oedd Prif Weithredwr Croeso Cymru. Yn
gynharach yn ei gyrfa, bu’n gweithio yn y BBC ac S4C, a hefyd gyda Thywysog
Cymru.