Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Cafodd Matthew
Jones ei ethol i gynrychioli Sir Fynwy Torfaen yn y Senedd ym mis Mai 2026. Mae
ei ddiddordebau polisi yn ymwneud yn bennaf â lleihau anghydraddoldebau yng
Nghymru, gan gynnwys o ran diagnosis a gofal canser, mynd i'r afael â
gwahaniaethu, a datrys anghydraddoldebau cymdeithasol ehangach megis tlodi.
Hanes personol
Cafodd Matthew ei
eni ym 1988 a'i fagu ym Mhont-y-pŵl.
Mae bellach yn byw yng Nghwmbrân. Mynychodd Ysgol Gyfun Gwynllyw cyn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth,
lle cafodd BA mewn Drama a PhD a oedd yn canolbwyntio ar Theatr i Bobl Ifanc
yng Nghymru. Mae ei ddiddordeb mewn lleihau anghydraddoldebau canser yn
deillio, yn rhannol, o golli ei fam i ganser pan oedd yn blentyn.
Cefndir
proffesiynol
Wrth ymgymryd â'i
ddoethuriaeth, fe weithiodd fel tiwtor ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fel warden
yn Neuadd Pantycelyn. Yna, aeth i weithio yn y Senedd, gan gynnwys fel
cynorthwyydd i Dafydd Elis-Thomas ac, yn ddiweddarach, fel uwch-gynghorwr i
Elin Jones AS. Cyn iddo gael ei ethol, ef oedd Arweinydd Polisi a Materion
Cyhoeddus Cymru gyda Breast Cancer Now, lle arweiniodd ymgyrch i gynyddu’r
niferoedd sy'n cael eu sgrinio am ganser y fron ledled Cymru.