Roedd Michelle Brown yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2016 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Michelle yn credu y gall gogledd Cymru ffynnu, os caiff gyfle teg, ac mae hi'n angerddol ynglŷn ag ymladd i’r ardal gael y sylw a'r buddsoddiad y mae'n ei haeddu. Dywed ei bod yn siaradwraig blaen ac y 'bydd yn dweud ei barn yn glir – yn blaen ac yn syml.’
Cefndir personol
Mae Michelle yn hoffi anifeiliaid. Cafodd ei magu ym Mostyn a graddiodd o Brifysgol Swydd Stafford gyda gradd yn y Gyfraith, gradd Meistr yn y Gyfraith a Diploma Ôl-raddedig mewn Practis Cyfreithiol. Mae ei theulu wedi byw yn ardal Treffynnon ers dechrau’r 1950au, a mynychodd ysgolion lleol, gan fynd i ysgol gynradd yn Nhreffynnon ac i Ysgol Uwchradd St Richard Gwyn yn y Fflint.
Mae Michelle yn dal i fyw ym Mostyn, ar ôl dychwelyd i Gymru rai blynyddoedd yn ôl ar ôl cyfnod yn gweithio yng nghanolbarth Lloegr.
Cefndir proffesiynol
Cyn dod yn Aelod Cynulliad, gweithiodd Michelle fel cynghorydd cyfreithiol yn y sector peirianneg, gan weithio i gwmni byd-eang sy'n ymdrin ag amrywiaeth o gontractau gwerth uchel.
Hanes gwleidyddol
Ym mis Medi 2018, gadawodd Caroline UKIP a daeth yn Aelod Cynulliad Annibynnol.