Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Mick Antoniw yn un o sylfaenwyr
Sefydliad Bevan. Mae hefyd yn gyn-ymddiriedolwr o Gyngor Ffoaduriaid Cymru. Ef
yw Is-lywydd Ymddiriedolaeth Gymunedol Brynsadler ym Mhont-y-clun ac mae’n
Ymddiriedolwr i’r elusen cynghori ieuenctid, Eye-to-eye, ym Meddau. Mae hefyd
yn aelod o sefydliad Gwreiddiau Llafur Cymru, y Blaid Gydweithredol, y GMB ac
Undeb y Cerddorion.
Yn ei etholaeth, mae Mick yn
canolbwyntio ar sicrhau tegwch a chyfiawnder cymdeithasol i bobl sy’n gweithio
ac ar wella seilwaith, yn enwedig ym maes trafnidiaeth. Mae’n ymgysylltu’n eang
ar draws ei etholaeth, ac mae’n falch o fod wedi helpu llawer o unigolion a
grwpiau i wella eu hardal leol.
Hanes
personol
Cafodd Mick ei fagu yn Reading, gan
symud i Gymru i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ym 1973. Mae’n caru
Cymru a dyma lle y cwrddodd â’i wraig Elaine, felly yma y mae wedi byth oddi ar
hynny. Ffoadur o’r Wcráin ar ôl y rhyfel
oedd tad Mick; dysgodd Wcreineg iddo, iaith y mae’n rhugl ynddi. Mae Mick yn
cael gwersi Cymraeg pryd bynnag y bo modd, ond mae ganddo rywfaint i fynd cyn y
bydd yn rhugl mewn tair iaith!
Cefndir
proffesiynol
Cyn cael ei ethol yn Aelod
Cynulliad yn 2011, roedd Mick yn bartner yn Thompsons, cwmni cyfreithwyr ym
maes Undebau Llafur, lle’r oedd yn cynrychioli pobl Pontypridd ac ardal Rhondda
Cynon Taf yn rheolaidd. Trwy ei waith achos, aeth i’r pyllau glo yn Nantgarw a
Chwm, a bu’n cynrychioli’r South Wales Forgemasters a Brown Lenox ymhlith
eraill. O ganlyniad, mae wedi gweld nifer o newidiadau yn yr etholaeth dros y
blynyddoedd.
Ar ôl cymhwyso fel cyfreithiwr ym
1980, bu Mick yn arbenigo mewn anafiadau i’r asgwrn cefn a’r pen, yn ogystal ag
achosion o ddynladdiad corfforaethol.
Mae’n gymrawd gwadd ym Mhrifysgol De Cymru yn Nhrefforest, ac mae wedi
darlithio’n eang ledled Cymru, yn y DU ac yn rhyngwladol ym meysydd iechyd a
diogelwch a diwygio’r gyfraith.
Hanes
gwleidyddol
Mae Mick wedi bod yn gwasanaethu
pobl Pontypridd a Thaf Elái fel Aelod Cynulliad er 2011. Cafodd ei ail-ethol yn
2016.
Gwasanaethodd Mick fel Cwnsler
Cyffredinol Cymru o fis Mehefin 2016 tan fis Tachwedd 2017.
Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad
(2011 - 2016), bu Mick yn aelod o Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad a’r
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, ac ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau
Ymddygiad. Mae Mick yn cymryd rhan mewn nifer o grwpiau trawsbleidiol.
Rhwng 2012 a 2015, bu Mick yn
cynrychioli Llywodraeth Cymru ar Bwyllgor Rhanbarthau’r Undeb Ewropeaidd.
Cafodd ei ailbenodi i’r rôl yn 2017.
Rhwng 1977 a 1979, Mick oedd
Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (Cymru) ac yn fuan wedyn, rhwng 1981 a
1989 roedd yn aelod o Gyngor Sir De Morgannwg.