Roedd Nathan Gill
yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2016 ac Rhagfyr 2017. Hwn
oedd ei fywgraffiad pan fu adael.
Hanes personol
Symudodd teulu Nathan
i Ynys Môn pan oedd yn blentyn. Aeth i Ysgol Gymuned Llannerch-y-medd, ac yna
cafodd addysg uwchradd ac addysg bellach mewn ysgolion a cholegau lleol. Ar ôl coleg, daeth Nathan yn gyfrifol am y
busnes teuluol, gan ddarparu gofal i'r henoed, cyn symud i faes gwleidyddiaeth.
Mae Nathan yn
briod, ac mae ganddo bump o blant ac mae pob un ohonynt yn mynd i ysgol cyfrwng
Cymraeg. Mae Nathan yn ymddiddori yn hanes y Rhyfel Byd Cyntaf, darllen a
garddio ac mae'n cyfaddef ei fod yn addoli'r haul.
Hanes gwleidyddol
Mae Nathan wedi
cefnogi ac ymgyrchu ar ran UKIP ers 2004 ac mae wedi sefyll mewn amrywiol
etholiadau lleol a chenedlaethol fel ymgeisydd ar gyfer y blaid. Cafodd Nathan
ei ethol yn ASE UKIP dros Gymru yn 2014. Ar ôl llwyddiant Etholiad Ewrop yn
2014, daeth Nathan yn Arweinydd UKIP Cymru yng Nghynhadledd Hydref UKIP Cymru,
a gynhaliwyd ym Margam ym mis Rhagfyr 2014.
Ym mis Awst 2016,
gadawodd Nathan grŵp
UKIP yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a daeth yn Aelod Cynulliad Annibynnol.