Roedd Neil Hamilton yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2016 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Prif ddiddordebau gwleidyddol Neil Hamilton yw'r economi, trethi isel, entrepreneuriaeth ac, yn anad dim, sofraniaeth y Senedd ac annibyniaeth genedlaethol Prydain. Gwrthwynebiad i'r UE yw'r llinyn sy'n rhedeg trwy ei holl fywyd gwleidyddol. Ymunodd â'r Gynghrair Gwrth-Farchnad Gyffredin ym 1967 tra'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman.
Mae yn erbyn y Wladwriaeth Les, gan gredu y dylai pobl benderfynu drostynt eu hunain sut i fyw, ar yr amod nad ydyn nhw'n achosi unrhyw niwed sylweddol i bobl eraill.
Hanes personol
Fe'i ganed ym 1949, a thyfu i fyny mewn teulu glofaol yng Nghymoedd De Cymru. Roedd ei ddau dad-cu yn lowyr a daeth ei dad yn Prif Beiriannydd NCB Cymru. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (BScEcon 1970, MScEcon 1973) a Choleg Corpus Christi, Caergrawnt, (LL.M 1977).
Cefndir proffesiynol
Galwyd ef i'r Bar yn y Middle Temple yn 1979 gan arbenigo mewn treth, eiddo deallusol, cyfraith cwmnïau, ymddiriedolaethau ac ati. Cyn dod yn AS roedd yn Gyfarwyddwr Materion Ewropeaidd a Seneddol Sefydliad y Cyfarwyddwyr.
Hanes gwleidyddol
Ymladdodd, fel Ceidwadwr, Abertyleri ym mis Chwefror 1974, Bradford North ym 1979 a chafodd ei ethol yn AS Ceidwadol dros Tatton ym 1983. Roedd yn aelod o Bwyllgor Dethol y Trysorlys, yn Chwip y Llywodraeth, Gweinidog dros Faterion Corfforaethol yn yr Adran Masnach a Diwydiant, yn gyfrifol am y Ddinas, y Diwydiant Gwasanaethau Ariannol, Yswiriant, Cyfrifeg, Cyfraith Corfforaethol a Masnachol, Rheoleiddio Ariannol, Twyll a Delio Mewnol, Monopolïau ac Uniadau, Polisi Masnach Ewropeaidd etc. Arweiniodd Fenter Ddadreoleiddio'r Llywodraeth ac roedd yn Aelod o Gyngor Gweinidogion yr UE, yn gyfrifol am bob agwedd ar fasnach rhwng Prydain ac Ewrop gyda chyfrifoldeb arbennig dros Ddwyrain Ewrop. Ef oedd cynrychiolydd y DU i Gynadleddau'r G7 a'r Cenhedloedd Unedig ar Adluniad Dwyrain Ewrop.
Ymunodd â'r Gynghrair Gwrth-Farchnad Gyffredin yn 1967, UKIP yn 2002 ac roedd yn aelod o'i Phwyllgor Gwaith Cenedlaethol 2011-2016. Ef oedd Dirprwy Gadeirydd UKIP yn 2013-2016 a Chyfarwyddwr yr Ymgyrch yn etholiadau Senedd Ewrop 2014.