Pobl y Senedd

Nerys Evans AS

Nerys Evans AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Sir Gaerfyrddin

Y Dirprwy Weinidog Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol

Y Dirprwy Weinidog Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Nerys Evans yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Nerys Evans yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: 


Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Nerys Evans AS

Bywgraffiad

Y Dirprwy Weinidog Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Etholwyd Nerys Evans AS i gynrychioli Sir Gaerfyrddin yn 2026, a chafodd ei phenodi'n Ddirprwy Weinidog cyntaf dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol ym mis Mai 2026.

Hanes personol

Wedi ei magu yn Llangain, mynychodd Ysgol Llangain ac Ysgol Bro Myrddin a graddiodd o Brifysgol Manceinion a Phrifysgol Caerdydd.

Cefndir proffesiynol

Mae hi wedi dal sawl penodiad gweinidogol a chyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethu fel Aelod o Gomisiwn Williams ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, Comisiynydd Addysg, ac ar Bwyllgor Cynghori Ofcom Cymru. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar fwrdd FUW. Bu’n arwain ar bolisi ar gyfer Elusen Canser, gan gefnogi eu gwaith a'u hymgysylltiad â Byrddau Iechyd Lleol ledled Cymru a sefydlodd a thyfodd asiantaeth materion cyhoeddus lwyddiannus – gan weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau ar draws y trydydd sector, y sector cyhoeddus a'r sector preifat ar ddatblygu polisi cyhoeddus ac ymgyrchu.

Hanes gwleidyddol

Cafodd ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyntaf yn 2007 a gwasanaethodd am un tymor fel Aelod Cynulliad rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn ystod clymblaid Cymru’n Un lle bu'n gweithio fel y cyswllt rhwng Gweinidogion ac aelodau'r meinciau cefn. Hi oedd llefarydd Addysg Plaid Cymru a gweithiodd gyda'r Llywodraeth i gyflawni'r Strategaeth Addysg Iaith Gymraeg gyntaf a'r Coleg Cenedlaethol. Bu hefyd yn cadeirio’r pwyllgor Darlledu, a’r grŵp trawsbleidiol ar Fand Eang – gan gyflwyno’r achos dros fuddsoddi mewn cymunedau gwledig.  Yn ystod y cyfnod hwnnw ymgyrchodd i godi ymwybyddiaeth o Drais yn erbyn Menywod, ac enillodd wobr Ymgyrchydd y Flwyddyn ITV yn 2008. 

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 04/05/2007 - 31/03/2011
  2. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Seneddau Blaenorol

 

Digwyddiadau calendr: Nerys Evans AS