Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Y tu allan i
wleidyddiaeth, mae Nigel yn un brwd dros chwaraeon sy'n credu ym mhwysigrwydd
cadw’n heini. Er mai’r fersiwn dan gerdded y mae’n ei chwarae bellach, yn
hytrach na'r gêm draddodiadol, mae ei selogrwydd dros bêl-droed wedi pylu dim.
Ac yntau’n golffiwr ac yn feiciwr brwd hefyd, mae’n mwynhau'r cyfleoedd y mae'r
ddau weithgaredd yn eu cynnig i gadw'n heini a threulio amser yn yr awyr
agored. Yn feiciwr modur gydol oes, mae Nigel yn dal i fwynhau mentro allan ar
ei beiriant pan fydd ei amserlen yn caniatáu. Yn 2025, cymerodd ran yn Niwrnod
Dave, y daith elusen enwog o Lundain i Ardal y Llynnoedd a sefydlwyd er cof am
y darlledwr a’r beiciwr modur brwd, Dave Myers. Mae Nigel hefyd yn hoff o
anifeiliaid a than yn ddiweddar byddai Cŵn Mynydd Bern yn gwmni cyson iddo. Mae ei hoffter
o anifeiliaid yn mynd y tu hwnt i gŵn: drwy dreulio blynyddoedd lawer gyda theulu ei
ddiweddar ferch ar eu fferm yn Ffrainc, mae wedi dod yn hoff iawn o geffylau ac
anifeiliaid fferm. Mae'n parhau i ymweld ag "ochr Ffrengig ei deulu",
fel mae’n eu galw.
Hanes personol
Ers colli ei
ferch bron i ddwy flynedd yn ôl, mae Nigel wedi troi ei alar tuag at weithredu
cadarnhaol, gan gymryd rhan mewn nifer o deithiau cerdded elusennol a
digwyddiadau codi arian i gefnogi achosion canser. Mae'r profiadau hyn wedi
dwysáu ei ymrwymiad i gefnogi teuluoedd sy'n wynebu heriau tebyg ac i wneud
gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau eraill.
Cefndir
proffesiynol
Cyn iddo gael ei
ethol, cafodd Nigel yrfa amrywiol yn y gwasanaeth cyhoeddus, gan weithio fel
athro ysgol, gwasanaethu gyda'r heddlu, a gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd
Gwladol. Ar ben hynny, treuliodd Nigel gyfnod fel ffotograffydd priodasau
proffesiynol ac, yn ddiweddar, fe ddaeth yn awdur cyhoeddedig.
Hanes
gwleidyddol
Mae Nigel
Williams yn Aelod o'r Senedd (AS) dros etholaeth Fflint Wrecsam. Fe’i hetholwyd
ym mis Mai 2026. Mae'n cynrychioli Reform UK Cymru yn Senedd Cymru. Mae hefyd
wedi bod yn weithgar yng ngwleidyddiaeth Cymru ers nifer o flynyddoedd, gan
sefyll fel ymgeisydd yn Nelyn a gweithio yn y Senedd yn flaenorol. Fel un a
gafodd ei eni a'i fagu yn Sir y Fflint, mae Nigel wedi ymrwymo i gynrychioli
pobl gogledd-ddwyrain Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion
sy'n effeithio ar gymunedau lleol.