Diddordebau a llwyddiannau allweddol
Mae Paul yn ymgyrchydd cyson dros y
gymuned awtistiaeth yng Nghymru a chyflwynodd ddeddfwriaeth ddrafft ar Ddeddf
Awtistiaeth i Gymru, a arweiniodd at newidiadau statudol sylweddol mewn
darpariaeth awtistiaeth yng Nghymru, er na chafodd y ddeddf ei hun ei phasio
gan y Senedd. Paul hefyd yw prif ffigwr yr ymgyrch i gadw a diogelu Cofebion
Rhyfel yng Nghymru yn well ac mae'n codi'r mater hwn yn Siambr y Senedd yn
rheolaidd.
Hanes personol
Ganed Paul ym 1969 a thyfodd i fyny ym
Mhont-siân y tu allan i Landysul yn sir Ceredigion. Mynychodd Ysgol Gynradd
Tregroes, Ysgol Ramadeg Llandysul ac ar ôl astudio ei Lefel A yn Ysgol Gyfun
Castellnewydd Emlyn, ymunodd â Banc Lloyds ym 1987.
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei ethol, parhaodd Paul i gael ei
gyflogi gan Fanc Lloyds a'i rôl olaf gyda'r cwmni oedd fel Rheolwr Busnes yn
Hwlffordd yn helpu i gefnogi busnesau bach.
Hanes gwleidyddol
Ym mis Chwefror 2000, ymladdodd Paul
isetholiad Seneddol Ceredigion a gwella sefyllfa Plaid y Ceidwadwyr Cymreig gan
ddod yn drydydd y tro hwn ar ôl iddi ddod yn bumed yn yr etholiad blaenorol.
Safodd hefyd yn etholiad cyffredinol 2001 fel yr ymgeisydd Seneddol dros
Geredigion. Yn 2003, safodd Paul dros y Ceidwadwyr Cymreig ym Mhreseli Sir
Benfro yn etholiad y Cynulliad a chynyddu cyfran ei blaid o 23 y cant i 30 y
cant. Ym mis Mai 2007, etholwyd Paul yn Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig
dros Breseli Sir Benfro, gyda 38.6 y cant o'r bleidlais a mwyafrif o 3,205. Yn
dilyn yr etholiad, penodwyd Paul yn Weinidog yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, y
Gymraeg a Chwaraeon ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn Weinidog yr Wrthblaid
dros Addysg a'r Gymraeg. Yn etholiad y Cynulliad yn 2011, ail-etholwyd Paul a
chynyddodd ei gyfran o'r bleidlais i 42.4 y cant. Fe'i penodwyd yn Arweinydd
Dros Dro Grŵp
Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig ac fe'i penodwyd yn ddiweddarach yn Ddirprwy
Arweinydd Grŵp
Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig a Gweinidog Cyllid yr Wrthblaid. Yn 2016,
ail-etholwyd Paul, gan gynyddu ei fwyafrif i 3,930. Parhaodd yn Ddirprwy
Arweinydd Grŵp
y Ceidwadwyr Cymreig, Rheolwr Busnes a Phrif Chwip yn ogystal â dod yn
llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Faterion Gwledig. Ym mis Medi 2018, etholwyd
Paul yn Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, swydd a fu ganddo tan 2021.
Yn etholiad y Senedd yn 2021, cafodd Paul ei ailethol eto gyda mwyafrif o
1,400.