Mae’n academydd â
phrofiad polisi cyhoeddus pwysig, ac mae wedi cyhoeddi gwaith ymchwil mewn sawl
maes, gan gynnwys y ffactorau sy'n pennu cyflogau yn y sector cyhoeddus. Yn ei
rôl gyhoeddus arall, mae'n aelod o Bwyllgor Llefarydd Tŷ'r Cyffredin ar gyfer yr Awdurdod Safonau
Seneddol Annibynnol. Mae'n Gymrawd ac yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Economeg yng
Ngholeg Sidney Sussex, Caergrawnt, yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Economeg yn
Neuadd y Drindod, Caergrawnt, ac yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Dundee.
Mae'r Athro
Chatterji yn gyn-gadeirydd Cydgyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Tân ac Achub y
DU (corff negodi cyflogau) ac mae wedi bod yn aelod o'r Corff Adolygu Athrawon
Ysgol, sy'n gwneud argymhellion i'r Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol dros
Addysg a Sgiliau ynghylch cyflogau, amodau, a threfniadau llywodraethu ar gyfer
athrawon a phrifathrawon yng Nghymru a Lloegr. Mae'n gyn-aelod o Grŵp Economegwyr, Swyddfa Economeg y
Gweithlu, sy'n ystyried materion trawsbynciol o ran cyflogau yn y sector
cyhoeddus.