Pobl y Senedd

Sandy Mewies

Sandy Mewies

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Sandy Mewies

Bywgraffiad

Roedd Sandy Mewies yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2003 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.

Cefndir personol

Mae Sandy Mewies yn byw gyda’i theulu ger Treffynnon. Mae ei diddordebau y tu allan i wleidyddiaeth yn cynnwys coginio a darllen ac mae’n defnyddio gwasanaeth llyfrgell Sir y Fflint yn rheolaidd. Graddiodd o’r Brifysgol Agored.

Cefndir proffesiynol

Cyn dechrau ar yrfa ym maes gwleidyddiaeth, prif yrfa Sandy oedd newyddiaduraeth, ond bu hefyd yn gweithio yn y sector gwirfoddol ac mae’n arolygydd ysgolion lleyg. Bu’n gynghorydd Bwrdeistref Sirol yn Wrecsam am 16 mlynedd, gan wasanaethu fel dirprwy arweinydd a chadeirydd y Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn 2001, roedd yn Faer Wrecsam. Bu’n aelod o Ganolfan Ewropeaidd Cymru a Bwrdd Prawf Gogledd Cymru.

Cefndir Gwleidyddol

Etholwyd Sandy i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 2003 a’i hailethol yn 2007 a 2011. Mae wedi bod yn Gadeirydd Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol y Cynulliad a’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad a Phwyllgor Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Ymysg rhai o brif ddiddordebau gwleidyddol Sandy, mae cyfiawnder cymdeithasol, cynhwysiant cymunedol, iechyd ac addysg.

Ymgysylltiadau

Mae’n gymrawd er anrhydedd o Brifysgol Glyndwr ac yn aelod o Unite.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Sandy Mewies