Pobl y Senedd

Sera Evans AS

Sera Evans AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Afan Ogwr Rhondda

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Sera Evans AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Sera yn angerddol am bob mater sy'n gysylltiedig ag addysg, ac mae ganddi brofiad sylweddol o lywio deddfwriaeth a gwasanaethau ym maes anghenion dysgu ychwanegol – proses sydd wedi’i hategu gan ei phrofiad byw ei hun. Mae Sera wedi bod yn eiriolwr cryf dros drigolion lleol, gan sicrhau bod modd iddynt gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt ar draws ystod o feysydd a gwasanaethau. Yn ei rôl fel Cynghorydd, mae Sera wedi cefnogi trigolion gyda nifer o faterion lleol, gan gynnwys adfer gwasanaethau bysiau lleol, mynd i’r afael ag achosion o lifogydd, a gwella mynediad at wasanaethau, gan sicrhau tegwch i bawb. Mae hi'n eiriolwr brwd dros addysg cyfrwng Cymraeg, addysg anghenion dysgu ychwanegol, ac ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch, a oedd yn rhan greiddiol o'i rôl ym Mhrifysgol De Cymru (gweler isod). Mae Sera hefyd wedi ymgyrchu o blaid gwella cludiant i’r ysgol, cefnogi cydraddoldeb iechyd, a mynd i'r afael â thlodi plant.

Hanes personol

Cafodd Sera ei geni a’i magu yng Nghwmparc, ac mae hi bellach yn byw yn Nhreorci gyda'i dau fab. Cafodd ei haddysgu yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Ysgol Gyfun Cwm Rhondda (Ysgol Gyfun Cymer Rhondda gynt) a Phrifysgol Rhydychen, lle enillodd radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2.1) ac yna radd meistr mewn ieithoedd modern ac ieithyddiaeth. Mae gan Sera dystysgrif addysg i raddedigion (TAR) a chymwysterau proffesiynol ym meysydd diogelu, iechyd a diogelwch ac arweinyddiaeth a rheoli. Mae Sera yn gyfathrebwr rhagorol, ac mae ganddi hanes cryf o gynrychioli cymunedau'r Cymoedd mewn modd tosturiol, difyr a dygn.

Cefndir proffesiynol

Tan iddi gael ei hethol i'r Senedd ym mis Mai 2026, bu Sera’n gweithio ym Mhrifysgol De Cymru fel Cyfarwyddwr Cyswllt Recriwtio a Derbyniadau Myfyrwyr y DU. Mae Sera yn gyn-athrawes, a chafodd ei hyfforddi ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd (UWIC gynt). Gweithiodd yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yn y Barri cyn dechrau ym Mhrifysgol De Cymru yn 2007, fel Swyddog Cyswllt Ysgolion a Cholegau. Cafodd ei dyrchafu i rôl Rheolwr Recriwtio’r DU, ac yna i rôl Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr y DU, cyn cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cyswllt yn 2022. Mae Sera yn gwasanaethu fel Is-gadeirydd y llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Parc ac fel llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, ac mae ganddi brofiad helaeth o drawsnewid a datblygu cyrff llywodraethu.

Hanes gwleidyddol

Cafodd Sera ei hethol fel Cynghorydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn 2008, yn cynrychioli ward Cwmparc, Treorci ac Ynyswen. Daliodd y sedd honno hyd nes iddi gael ei hethol i’r Senedd ym mis Mai 2026. Rhwng 2022 a 2026, Sera oedd Dirprwy Arweinydd yr Wrthblaid a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Addysg a Chynhwysiant yn y cyngor. Roedd hi hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a Phanel Penodi Llywodraethwyr yr awdurdod lleol. Chwaraeodd Sera ran allweddol yn y broses o sefydlu gweithgor ar dlodi plant o fewn RCT, a hynny yn sgil cynnig a gyflwynwyd ganddi i'r cyngor mewn perthynas â lliniaru tlodi plant yn y fwrdeistref sirol. Ar ben hynny, cadeiriodd Sera weithgor ar gymunedau dysgu cynaliadwy, gan archwilio effaith y buddsoddiad a wnaed yn RCT ar gyfer y rhaglen ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2026 -

Digwyddiadau calendr: Sera Evans AS