Pobl y Senedd
Shav Taj AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Llafur Cymru
Grŵp Llafur Cymru
Caerdydd Ffynnon Taf
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 6518
E-bost
Shav.Taj-AS@senedd.cymru
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Shav Taj AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Cafodd Shav Taj AS ei geni a'i magu yng Nghaerdydd, lle mae hi'n parhau i fyw gyda'i gŵr a'i dwy ferch. Symudodd ei thad i'r DU o wlad Pacistan ym 1958, a gweithiodd yn y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot a Chaerdydd. Gyda’i thad yn gynrychiolydd gweithredol yn y mudiad undebau llafur, cafodd Shav ei thrwytho yn yr ymdeimlad cryf o gyfunoliaeth ac undod.
Roedd ei mam a'i chwaer yn rhedeg siop ffabrigau fach yng Nghaerdydd, a ddaeth yn ganolfan leol ac yn lle diogel i lawer o fenywod o gefndiroedd amrywiol a oedd yn wynebu heriau cymdeithasol a phersonol. Dyma oedd yr amgylchedd a ysbrydolodd y broses o greu Sefydliad Henna.
Cafodd Shav ei geni ym 1976, ac roedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Cathays, lle cymerodd ei chamau gwleidyddol cyntaf. Yn 15 oed, dechreuodd drefnu ymgyrchoedd cyfiawnder cymdeithasol a gwrth-hiliaeth. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Glan Hafren, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Gorllewin Lloegr, gan ddatblygu diddordeb mawr mewn cydraddoldeb, cyfiawnder economaidd a hawliau gweithwyr.
Cyn cael rôl llawn amser yn y mudiad undebau llafur, gweithiodd Shav yn y sector manwerthu, y sector gwasanaeth cwsmeriaid, y sector lletygarwch a’r sector elusennau. Yn ddiweddarach, daeth yn swyddog llawn amser yn Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS). Yn 2013, cafodd ei phenodi i rôl Ysgrifennydd Cymru, gan gynrychioli miloedd o staff yn y gwasanaeth sifil ledled Cymru.
Yn 2018, daeth Shav yn Llywydd Cyngres Undebau Llafur (TUC) Cymru. Yn 2020, cafodd ei phenodi'n Ysgrifennydd Cyffredinol Dros Dro, ac yn 2021, cymerodd yr awenau yn barhaol. Hi oedd yr ail fenyw i ddal y rôl honno, a'r person cyntaf o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) i wneud hynny.
Mae Shav wedi gwasanaethu fel llywodraethwr mewn ysgol gynradd ac wedi cadeirio cangen y Blaid Lafur yn ei hetholaeth leol. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu ar fyrddau Ymddiriedolaeth Iechyd y Bobl a Sefydliad Bevan, ac roedd yn aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mae hi'n parhau i gefnogi ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, ac mae'n aelod o Bwyllgor Strategol Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Yn 2026, cafodd Shav ei hethol yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth ei bro, sef Caerdydd Ffynnon Taf. Ar hyn o bryd, mae hi'n gwasanaethu fel llefarydd Llafur Cymru dros gyflogaeth, cydraddoldeb a thrawsnewid economaidd, ac yn cadeirio Grŵp Llafur Cymru yn y Senedd.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 08/05/2026 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Gweld y Gofrestr Fuddiannau GyfredolAelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
- Anabledd - Grŵp Trawsbleidiol
- Canser - Grŵp Trawsbleidiol
- Cwmnïau Cydweithredol - Grŵp Trawsbleidiol
- Cyflogaeth Ieuenctid - Grŵp Trawsbleidiol
- Cymru ac Ewrop - Grŵp Trawsbleidiol
- Cymru Ryngwladol - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Cymunedau Diwydiannol - Grŵp Trawsbleidiol
- Hawliau Dynol - Grŵp Trawsbleidiol
- Iechyd yr Ysgyfaint - Grŵp Trawsbleidiol
- Menywod - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Tlodi - Grŵp Trawsbleidiol
- Tlodi Tanwydd - Grŵp Trawsbleidiol
- Trafnidiaeth Gyhoeddus- Grŵp Trawsbleidiol
- Weithredu Cymunedol - Grŵp Trawsbleidiol