Pobl y Senedd

Yr Athro Uzo Iwobi

Yr Athro Uzo Iwobi

Cynghorwr Annibynnol

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Yr Athro Uzo Iwobi

Bywgraffiad

Yr Athro Uzo Iwobi CBE, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Race Council Cymru; cyn Gynghorydd Polisi Arbenigol i Lywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb, 2019-2021; a chyn Gomisiynydd i’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol; cyn hynny bu’n gwasanaethu fel cynghorydd i’r 43 o heddluoedd yn y DU drwy wasanaethu fel cynrychiolydd ACPO a 43 o heddluoedd ar Dîm Amrywiaeth Cenedlaethol yr Heddlu a oedd yn grŵp teiran strategol cenedlaethol wedii leoli yn y Swyddfa Gartref.

Yn wreiddiol o Nigeria, mae gan Uzo radd yn y gyfraith o Brifysgol Nigeria a chymhwysodd fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr a chafodd ei galw i Far Nigeria. Uzo yw sylfaenydd Canolfan Gymunedol Affricanaidd Cymru, a Race Council Cymru lle mae’n gwasanaethu fel prif weithredwr ac yn eistedd ar fwrdd sawl mudiad gwirfoddol. Roedd Uzo yn Gomisiynydd i Gomisiwn y Canmlwyddiant a sefydlwyd gan Theresa May yn 2018 ac mae Uzo yn gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, yn gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr, ac yn Ymddiriedolwr ir Gymdeithas Frenhinol y Gymanwlad Cymru. Uzo yw sylfaenydd Fforwm Polisi Black Lives Matter Cymru, ymgyrch ZeroRacismWales, sylfaenydd Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol Du Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru ac un o sylfaenwyr Hanes Pobl Dduon Cymru. Lansiodd a hwylusodd y dathliad Windrush cyntaf yng Nghymru yn 2018. Dyfarnwyd CBE i Uzo am wasanaethau i gydraddoldeb hiliol a hyrwyddo amrywiaeth a chydlyniant.

Aelodaeth

Digwyddiadau calendr: Yr Athro Uzo Iwobi