Cylch Gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021. Yn unol â Reol Sefydlog 19, mae cyfrifoldebau'r Pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Senedd ynghylch defnyddio adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys craffu ar gyllidebau’r cyrff a ariennir yn uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol Cymru.
O dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r Pwyllgor yn cynnwys goruchwylio llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
O dan Reol Sefydlog 18A, mae cyfrifoldebau’r Pwyllgor yn cynnwys goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Gall y Pwyllgor hefyd, fel rhan o'i gyfrifoldebau, ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru. Gall y Pwyllgor graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Senedd.

Aelodau'r Pwyllgor