Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Sefydlwyd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a gan y Senedd i edrych ar bolisïau a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc; addysg; iechyd, gwasanaethau gofal a gofal cymdeithasol mewn cysylltiad â phlant a phobl ifanc. Ar ddechrau'r chweched Senedd, cytunodd y Pwyllgor ar ei strategaeth, gan gynnwys ei weledigaeth a'i amcanion sy'n sail i'r holl waith y mae'r Pwyllgor yn ei wneud. Darllenwch y strategaeth isod.

Mae gan y Pwyllgor chwe Aelod sy'n dod o'r gwahanol bleidiau sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd, ac mae’n cael ei gadeirio gan Jayne Bryant AS. Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a’i aelodau isod, ynghyd â'r rhestr lawn o'r meysydd y mae'n ymdrin â nhw.

Strategaeth

Ar ddechrau'r chweched Senedd, cytunodd y Pwyllgor ar ei strategaeth, gan gynnwys ei weledigaeth a'i amcanion sy'n sail i'r holl waith y mae'r Pwyllgor yn ei wneud.

Darllenwch fersiwn lawn (PDF 48KB) a symlach (PDF 66KB) o’r strategaeth i ddeall beth sy'n ysgogi’r Pwyllgor.

Group of young people discussing at low table

Cylch Gwaith

Pumpkin logo

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol.

Aelodau'r Pwyllgor