Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith gan y Senedd i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys polisi newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd, ynni; cynllunio; trafnidiaeth, a chysylltedd.

Mae gan y Pwyllgor chwe Aelod sy'n dod o'r gwahanol bleidiau sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd, ac mae’n cael ei gadeirio gan Llyr Gruffydd AS. Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a’i aelodau isod, ynghyd â'r rhestr lawn o'r meysydd y mae'n ymdrin â nhw.

Deddfwriaeth

Cylch Gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): polisi newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd, ynni; cynllunio; trafnidiaeth, a chysylltedd.

Aelodau'r Pwyllgor