Un o bwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad (2011-2016) oedd hwn. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 25 Tachwedd 2014 gyda’r cylch gwaith o graffu ar y polisi a’r ystyriaethau deddfwriaethol a oedd yn ymwneud â chael gwared ag amddiffyniad “cosb resymol” mewn cysylltiad â churo plant, yn sgil adran 58 o Ddeddf Plant 2004. Roedd cylch gwaith y Pwyllgor hefyd yn nodi y byddai’n cael ei ddiddymu yn dilyn y ddadl ar ei adroddiad.
Ni chytunodd y Cynulliad ar aelodaeth y Pwyllgor hwn. O ganlyniad, ni wnaeth gyfarfod.