Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru

Sefydlwyd Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Cymru ar Ymchwiliad COVID-19 gan y Senedd i edrych ar adroddiadau ym mhob cam o Ymchwiliad COVID-19 y DU a chynnig i’r Senedd, drwy gynnig, unrhyw fylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig COVID-19 y dylid eu harchwilio ymhellach.

Mae gan y Pwyllgor chwe Aelod sy'n dod o'r gwahanol bleidiau sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd, ac mae’n cael ei gyd-gadeirio gan Tom Giffard AS a Joyce Watson AS.

Datganiad Cyd-Gadeirdyddion

Datganiad gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru, Tom Giffard AS a Joyce Watson AS:

”Cafodd pandemig Covid-19 effaith fawr ar fywydau pawb yng Nghymru, a bydd y Pwyllgor hwn yn adlewyrchu hynny drwy wneud popeth o fewn ein gallu i gyflawni ein cylch gwaith penodol, sef monitro Ymchwiliad Covid-19 y DU a nodi unrhyw fylchau o ran parodrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y pandemig, a’i hymateb iddo, y mae angen ymchwilio iddynt ymhellach."

”Bydd y Pwyllgor yn pennu cwmpas ei waith ar ôl gweld yr adroddiad cyntaf ar Ymchwiliad Covid-19 y DU. Tan hynny, bydd y Pwyllgor yn parhau â’r gwaith paratoi, gan gynnwys cyfarfod yn gynnar yn 2024 gydag academyddion ac arbenigwyr, i gael cyngor ar faterion perthnasol sy’n codi yn sgil Ymchwiliad Covid-19 y DU. Bydd y cyfarfodydd hyn yn gyhoeddus a bydd rhagor o fanylion amdanynt ar gael yn fuan.”

11 Gorffennaf 2023

Adroddiadau Monitro

Mae gwasanaeth ymchwil y Senedd wedi paratoi adroddiadau monitro yn rhoi crynodeb o rai o’r prif faterion sy’n codi o Ymchwiliad Cyhoeddus COVID-19 y DU.

Gweithdrefnau a Ffyrdd o Weithio’r Pwyllgor

Ar 12 Gorffennaf 2023, cytunodd y Senedd ar Reol Sefydlog 35 Dros Dro, er mwyn gwneud darpariaethau ar gyfer gweithredu Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.

Mae Rheol Sefydlog 35 Dros Dro yn cynnwys gofyniad i Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru gytuno a chyhoeddi protocol yn nodi eu ffyrdd o weithio ar y cyd.

Cylch Gwaith

Sefydlwyd y pwyllgor ddydd Mawrth 16 Mai yn unol â Rheol Sefydlog 16.5 gyda'r cylch gwaith i:

i) Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiadau yn y camau unigol o Ymchwiliad Covid-19 y DU ac yng nghyd-destun cylch gorchwyl ac amserlen Ymchwiliad Covid-19 y DU, cynnig i’r Senedd, drwy gynnig, y dylai unrhyw fylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig Covid-19 gael eu harchwilio ymhellach.

 

ii) Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, cynnal adolygiad o’r meysydd hynny a nodwyd ar gyfer archwilio pellach.

iii) Cyhoeddi adroddiadau a gwneud argymhellion yn unol â hynny.

Mae’r Senedd hefyd wedi:

b) Cytuno na fydd y Pwyllgor Diben Arbennig yn ailedrych ar gasgliadau ymchwiliadau Pwyllgorau’r Senedd sydd wedi’u cwblhau ac y dylai geisio osgoi dyblygu.

c) Cytuno na fydd y Pwyllgor Diben Arbennig wedi’i wahardd rhag ymchwilio i faterion a archwiliwyd yn flaenorol gan Bwyllgorau’r Senedd pan fo gwybodaeth wedi’i diweddaru a budd clir i’w gael o graffu arnynt ymhellach.

2. Galw ar y Pwyllgor Busnes i sicrhau y bydd dadl yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiadau’r Pwyllgor Diben Arbennig o fewn dau fis i’w cyhoeddi.

Aelodau'r Pwyllgor