Sefydlwyd Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Cymru ar Ymchwiliad COVID-19 gan y Senedd i edrych ar adroddiadau ym mhob cam o Ymchwiliad COVID-19 y DU a chynnig i’r Senedd, drwy gynnig, unrhyw fylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig COVID-19 y dylid eu harchwilio ymhellach.
Mae'r Pwyllgor yn cynnwys chwe Aelod ac mae'n cael ei gyd-gadeirio gan Joyce Watson AS. Ar hyn o bryd mae dwy swydd wag ar y Pwyllgor.