Pwyllgor o’r Cynulliad Cyfan - Y Pedwerydd Cynulliad

Un o bwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad (2011-2016) oedd hwn. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau

Cafodd y pwyllgor, sy’n cynnwys holl Aelodau’r Cynulliad o dan gadeiryddiaeth y Llywydd, ei sefydlu ar 2 Gorffennaf 2013 pan gytunodd y Cynulliad y dylai’r Bil Sector Amaethyddol (Cymru) gael ei drin fel Bil Brys. Ei gylch gwaith oedd ystyried y gwelliannau i’r Bil Sector Amaethyddol (Cymru) yng Nghyfnod 2, yn unol â darpariaethau Rheol Sefydlog 26.103.

Aelodau'r Pwyllgor