Un o bwyllgorau’r Chweched Senedd (2021 - 2026).
Bwriedir i etholiad nesaf y Senedd gael ei gynnal ar 7 Mai 2026 a disgwylir i bwyllgorau newydd gael eu sefydlu cyn Hydref 2026.
Un o bwyllgorau’r Chweched Senedd (2021 - 2026).
Bwriedir i etholiad nesaf y Senedd gael ei gynnal ar 7 Mai 2026 a disgwylir i bwyllgorau newydd gael eu sefydlu cyn Hydref 2026.
Gellir galw Pwyllgor o'r Senedd Gyfan at ddiben penodol. Mae rhestr o bwyllgorau'r Senedd Gyfan yn ystod y Chweched Senedd, ynghyd â'u cylch gwaith wedi'i chynnwys isod:
Cafodd y Pwyllgor ei alw ar 31 Ionawr 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii). Ei gylch gwaith yw ystyried gwelliannau i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yng Nghyfnod 2.
Cafodd y Pwyllgor ei alw ar 17 Gorffennaf 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii). Ei gylch gwaith yw ystyried gwelliannau i Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yng Nghyfnod 2. Roedd trafodion Cyfnod 2 i'w cynnal ar 1 Hydref 2024.
Ar 16 Medi 2024, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu bwriad Llywodraeth Cymru I geisio tynnu’r Bil yn ôl. Tynnwyd y Bil yn ôl gyda chytundeb y Senedd ar 24 Medi 2024, yn unol â Rheol Sefydlog 26.79.
Cafodd y Pwyllgor ei gynnull ar 13 Ionawr 2026, yn unol â Rheol Sefydlog 26.103, gan fod y Senedd wedi cytuno y dylid trin Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) fel Bil Brys. Ei gylch gwaith oedd trafod gwelliannau i Fil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) yng Nghyfnod 2.