Daeth y Pwyllgor hwn o’r Chweched Senedd i ben yn dilyn cynnig yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Mehefin 2025. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau/
Gweithgaredd pwyllgor diweddaraf
Cylch Gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 16 Hydref 2024. Cylch gwaith y Pwyllgor yw trafod tri mater a chyflwyno adroddiad arnynt erbyn 9 Mai 2025:
a) trefn busnes yn y Seithfed Senedd, gyda’r nod o ganfod opsiynau sy’n cynyddu effeithiolrwydd ei gwaith craffu, effeithiolrwydd y modd y mae’n darparu busnes o ddydd i ddydd, a hygyrchedd busnes seneddol i’r Aelodau;
b) nodi atebion i rwystrau (gwirioneddol a chanfyddedig) a all amharu ar allu’r Senedd i gynrychioli pobl o bob cefndir, profiad bywyd, dewis a chred, neu sydd â’r potensial i wneud hynny, gan gynnwys ystyried fersiynau drafft a therfynol y canllawiau ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol; ac
c) trothwyon a osodir ar hyn o bryd yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer nifer yr Aelodau sy’n ofynnol at wahanol ddibenion, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ffurfio grwpiau gwleidyddol, diswyddo deiliaid swyddi, a chworwm.