Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Adroddiad Cyfnod 1

Mae’r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Biliau Diwygio yn nodi argymhellion i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).


Rhagair y Cadeirydd

Heddiw, mae’r Senedd wrth galon democratiaeth yng Nghymru sy’n werthfawr iawn inni. Mae Aelodau o’r Senedd yn cael eu hethol i weithio dros y cymunedau y maent yn eu cynrychioli, ac i weithio gyda’r cymunedau hyn, er mwyn sicrhau bod eu buddiannau nhw bob amser wrth wraidd yr hyn y mae’r Aelodau’n ei wneud wrth gyflawni eu cyfrifoldebau. Wrth wneud hynny, mae’r Aelodau yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, ac yn ceisio gwella penderfyniadau polisi, deddfwriaeth, gwariant a threthiant drwy gynnal gwaith craffu cadarn ac effeithiol.

Mae mwyafrif aelodau’r Pwyllgor wedi’u darbwyllo gan y dystiolaeth bod angen diwygio, ac y bydd Senedd fwy o faint yn gallu cyflawni ei chyfrifoldebau i bobl Cymru yn well, yn awr ac yn y dyfodol. Mae’r maint arfaethedig, sef 96, y tu hwnt i nifer uchaf unrhyw gynigion blaenorol, ond ni chlywsom unrhyw achos ar sail tystiolaeth fod y nifer hwn yn ormodol neu’n amhriodol.

Nid ydym wedi dod i gonsensws ar bob mater. Mae gwahanol safbwyntiau ynghylch a ddylid cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol ac ambell fater arall. Serch hynny, rydym yn unfrydol yn ein pryderon am y system etholiadol rhestrau caeedig arfaethedig sydd wedi’i chynnwys yn y Bil, ei heffaith ar ddewis pleidleiswyr, ac i ba raddau y bydd yn cyfrannu at ddemocratiaeth iach yng Nghymru. Rydym o’r farn bod y cysylltiad rhwng pleidleiswyr a’r Aelodau sy’n eu cynrychioli yn hollbwysig, ac na ddylid ei golli drwy’r diwygiadau hyn.

David Rees AS

Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio

Crynodeb o'r argymhellion

Egwyddorion cyffredinol y Bil

Dywedodd yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil (Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Llywodraeth Cymru) y byddai'r Bil yn cyflawni:

“Senedd sy'n fwy effeithiol, sydd â'r gallu a'r cadernid i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif; Senedd fwy cynrychioliadol i wasanaethu pobl Cymru yn well”.

Ein rôl ni yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chyflwyno adroddiad arnynt. Wrth wneud hynny, rydym wedi myfyrio ar y safbwyntiau a rannwyd â ni gan y cyhoedd, gan gynnwys y rhai sydd wedi llofnodi'r ddeiseb yn gwrthwynebu'r Bil. Rydym hefyd wedi myfyrio ar y corff o dystiolaeth academaidd a seneddol a ddatblygwyd dros yr 20 mlynedd diwethaf, o Gomisiwn Richard ymlaen. Er ein bod yn deall y pryderon, ac yn parchu safbwyntiau'r rhai sy'n gwrthwynebu'r Bil, mae mwyafrif aelodau'r Pwyllgor o'r farn bod y dystiolaeth yn glir fod angen diwygio'r gyfraith i sicrhau bod gan y Senedd ddigon o gapasiti i gyflawni ei swyddogaethau ar ran pobl Cymru.

Felly, mae mwyafrif aelodau'r Pwyllgor yn cytuno y dylai'r Senedd bleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1 i'w alluogi i fynd rhagddo i gyfnodau diwygio'r broses graffu ddeddfwriaethol.

 

Nôl i'r cynnwys

Nifer Aelodau’r Senedd

Ar hyn o bryd, mae gan y Senedd 60 o Aelodau. Mae'r Bil yn cynnig cynyddu hyn i 96.

Fel y rheini sydd eisoes wedi trafod y mater hwn, clywsom dystiolaeth am y risgiau sy’n gysylltiedig â maint y Senedd ar hyn o bryd, a’r cyfleoedd y gellid eu colli i wella canlyniadau i bobl a chymunedau ledled Cymru pe na chynyddid capasiti’r Senedd i graffu a chynrychioli.

Mae mwyafrif aelodau'r Pwyllgor yn cytuno bod rhesymeg glir dros gynyddu nifer Aelodau'r Senedd.

 

Nôl i'r cynnwys

Nifer y Dirprwy Lywyddion

Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol i'r Senedd ethol un Dirprwy Lywydd. Mae'r Bil yn cynnig hyblygrwydd i ethol un Dirprwy Lywydd ychwanegol.

Rydym yn fodlon ar y ddarpariaeth hon.

Mae’n briodol bod gan senedd hyblygrwydd o ran ei threfniadau a’i strwythurau mewnol ei hun. Rydym yn galw ar y Pwyllgor Busnes i ystyried a oes angen unrhyw newidiadau gweithdrefnol i adlewyrchu'r ddarpariaeth.

Mae cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd o ran teitlau’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yn gyfyngedig, ond nid yw'r teitlau Saesneg yn rhai sy’n cael eu deall yn eang. Rydym yn galw ar y Pwyllgor Busnes i ddefnyddio'r pŵer yn adran 25(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i bennu mai’r teitlau a ddefnyddir yn Saesneg ar gyfer y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd fydd “Speaker” a “Deputy Speaker”.

 

Nôl i'r cynnwys

Nifer Gweinidogion Cymru

Yn 2006, cynyddwyd uchafswm maint Llywodraeth Cymru o naw i 14 (Prif Weinidog a Chwnsler Cyffredinol, a hyd at 12 o Weinidogion neu Ddirprwy Weinidogion).

Mae'r Bil yn cynnig cynyddu nifer uchaf Gweinidogion Cymru a Dirprwy Weinidogion Cymru o 12 i 17. Mae hefyd yn cynnig pŵer i wneud rheoliadau i alluogi cynyddu hyn ymhellach i 18 neu 19. Byddai'r rheoliadau’n ddarostyngedig i'r weithdrefn graffu gadarnhaol, sy'n golygu bod angen mwyafrif syml i’w cymeradwyo.

Rydym yn derbyn y gallai cynyddu’r nifer uchaf i 17 roi mwy o hyblygrwydd a gallu i Brif Weinidogion y dyfodol sicrhau nad yw portffolios Gweinidogol yn rhy eang neu anhylaw. Rydym yn derbyn hefyd y gallai o bosibl wella effeithiolrwydd y llywodraeth.

Fodd bynnag, nid yw mwyafrif aelodau’r Pwyllgor o’r farn ei bod yn briodol gwneud unrhyw newidiadau pellach i'r terfyn uchaf drwy is-ddeddfwriaeth. Drwy fwyafrif, rydym yn galw ar yr Aelod sy'n gyfrifol i ddileu'r pŵer i wneud rheoliadau. Os na fydd yn gwneud hynny, rydym yn argymell newidiadau i'r weithdrefn graffu sy'n gymwys, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol cael cymeradwyaeth uwchfwyafrif o ddwy ran o dair o nifer y seddi yn y Senedd.

 

Nôl i'r cynnwys

Etholiadau cyffredinol cyffredin: pa mor aml

Cyn 2011, roedd etholiadau'r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd. Er mwyn adlewyrchu newidiadau a wnaed ar lefel y DU gan Ddeddf Seneddau Tymor Penodol 2011, cynyddodd Deddf Cymru 2014 hyn i bob pum mlynedd.

Mae'r Bil yn cynnig lleihau'r tymor i bedair blynedd. Mae’n siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynnig polisi sylweddol heb unrhyw ymgynghori nac ymgysylltu blaenorol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod yr atebolrwydd a’r ffocws ychwanegol y byddai cylchoedd etholiadol byrrach yn eu cynnig.

Bydd y newid yn gwneud gwrthdaro ag etholiadau eraill yn fwy tebygol. Rydym yn galw ar yr Aelod sy'n gyfrifol i esbonio pam nad yw Llywodraeth Cymru hefyd yn lleihau hyd tymhorau llywodraeth leol, ac i ddechrau ymgynghori ar y newid hwn yn ddi-oed. Rydym hefyd yn galw am roi ystyriaeth i’r effaith ar benodiadau cyhoeddus, a diweddau’r amcangyfrifon o’r costau i adlewyrchu effaith peri bod dyletswyddau statudol penodol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn dod yn berthnasol yn amlach.

 

Nôl i'r cynnwys

Sut y caiff Aelodau eu hethol

Mae'r Bil yn cynnig system etholiadol rhestr gaeedig gan ddefnyddio fformiwla D'Hondt i ddyrannu seddi i ymgeiswyr annibynnol neu restrau pleidiau gwleidyddol.

Mae sicrhau system etholiadol sy’n gweithio yn hollbwysig o ran iechyd democratiaeth yng Nghymru. Ar ôl ystyried y dystiolaeth yn ofalus, ac er gwaethaf y cynnydd posibl o ran cyfranoldeb yn sgil system rhestr gaeedig, mae gennym amheuon sylweddol ynghylch a yw Bil sy’n rhoi rhestrau caeedig ar waith o reidrwydd yn cynrychioli cam cadarnhaol ymlaen i ddemocratiaeth yng Nghymru.

Rydym yn annog yr Aelod sy’n gyfrifol yn gryf i weithio gyda phob plaid wleidyddol yn y Senedd er mwyn dod i gytundeb ar welliannau i’r Bil a all sicrhau bod y system etholiadol yn rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr a bod Aelodau yn y dyfodol yn fwy atebol i’w hetholwyr.

Er gwaethaf ein hamheuon, os rhoddir y system rhestr gaeedig ar waith, rydym yn galw ar yr Aelod sy'n gyfrifol i:

  • Gynnwys gofyniad ar wyneb y Bil bod rhaid i bapurau pleidleisio gynnwys enwau pob ymgeisydd, gan gynnwys enwau ymgeiswyr sy’n sefyll ar restrau a gyflwynir gan bleidiau gwleidyddol cofrestredig.
  • Sicrhau bod y Bil yn galluogi llenwi’r holl seddi gwag sy’n codi rhwng etholiadau, gan gynnwys seddi gwag sy’n cael eu gadael gan Aelodau a etholwyd fel rhai annibynnol, neu gan Aelodau a etholwyd i gynrychioli pleidiau nad yw eu rhestrau ymgeiswyr yn cynnwys rhagor o ymgeiswyr cymwys neu ymgeiswyr sy’n fodlon gwasanaethu. Gofynnwn hefyd i’r Pwyllgor Busnes ystyried a oes angen newidiadau gweithdrefnol i liniaru’r effaith ar fusnes y Senedd, gan gynnwys y system bwyllgorau, naill ai yn sgil seddi gwag na ellir eu llenwi, neu newidiadau yng nghyfansoddiad gwleidyddol y Senedd rhwng etholiadau cyffredinol.

Pa bynnag system etholiadol a roddir ar waith, a beth bynnag fo’i chynllun manwl, rhaid sicrhau ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a gwybodaeth gyhoeddus effeithiol, a rhaid sicrhau bod gweinyddwyr etholiadol a swyddogion canlyniadau yn cael y cymorth ariannol a’r cymorth a’r adnoddau eraill sydd eu hangen arnynt i roi’r darpariaethau yn y Bil ar waith. Rydym yn galw ar yr Aelod sy'n gyfrifol i roi sicrwydd yn hyn o beth.

 

Nôl i'r cynnwys

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Mae'r Bil yn cynnig newid diben ac enw Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a’i alw’n Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru i adlewyrchu ei gyfrifoldebau newydd ar gyfer cynnal adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd.

Rydym yn fodlon ar y drefn o roi’r swyddogaethau ar gyfer adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar ei newydd wedd, ac rydym yn cefnogi ei ailenwi i adlewyrchu ei rôl ehangach. Mae gennym bryderon ynghylch nifer uchaf arfaethedig y comisiynwyr, ac rydym yn argymell y dylid lleihau’r terfyn. Rydym yn galw am roi ystyriaeth i amrywiaeth ddaearyddol comisiynwyr, ac i bobl a gyflogir gan Lywodraeth Cymru neu bleidiau gwleidyddol gael eu hanghymwyso rhag bod â rolau allweddol yn y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau. Rydym hefyd yn gofyn am sicrwydd bod termau penodol a ddefnyddir yn y Bil yn ddigon clir a chyson â'r derminoleg a ddefnyddir mewn deddfwriaeth arall.

Mae'n bwysig bod trefniadau ar waith sy'n cydbwyso: parch at annibyniaeth y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau; sicrwydd bod ei lywodraethiant a'i weithrediad parhaus yn effeithiol; a thryloywder yn y broses benodi. Rydym yn galw ar y Pwyllgor Busnes i ystyried trefniadau atebolrwydd priodol, ac yn awgrymu y dylai'r rhain gynnwys gwrandawiadau cyn penodi fel rhan o'r prosesau ar gyfer penodi cadeirydd a phrif weithredwr y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau.

 

Nôl i'r cynnwys

Etholaethau Senedd Cymru ac adolygu ffiniau

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fecanweithiau ar gyfer adolygu ffiniau'r Senedd. Mae'r Bil yn cynnig adolygiad 'paru' cychwynnol o’r 32 o etholaethau Senedd y DU, ac adolygiadau 'llawn' dilynol i ddod i rym ar gyfer etholiad 2030 a phob wyth mlynedd wedi hynny.

Drwy fwyafrif, rydym yn fodlon ar y model 16 o etholaethau â chwe Aelod a gynigir yn y Bil. Er bod cymhlethdodau'n gysylltiedig â gweithredu'r model ffiniau ar gyfer 2026, rydym yn sicr bod modd cyflawni hynny ar yr amod na fydd yr amserlenni’n llithro.

Rydym yn fodlon at ei gilydd ar y prosesau a'r rheolau arfaethedig ar gyfer yr adolygiad paru a'r adolygiadau llawn o ffiniau, ond rydym yn tynnu sylw at rai materion technegol ac yn galw ar yr Aelod sy'n gyfrifol i:

  • Ymateb i argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer newidiadau technegol.
  • Pennu ar wyneb y Bil mai’r Gymraeg yw un o'r clymau lleol y dylai'r Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau eu hystyried wrth benderfynu ar ffiniau etholaethau.
  • Lleihau'r amrywiant a ganiateir o ran maint etholaethau.
  • Cynnwys y rhai a fydd yn dod i oed wrth gyfrifo’r cwota etholiadol.
  • Symud y terfyn amser ar gyfer cyhoeddi adroddiadau terfynol yr adolygiadau llawn o ffiniau er mwyn osgoi gwrthdaro â'r terfyn amser ar gyfer cyhoeddi cofrestrau etholwyr diwygiedig yn dilyn y canfasiad blynyddol.
  • Lleihau’r cyfnod y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno rheoliadau ynddo i roi effaith i argymhellion y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau, o chwe mis i bedwar mis.

Rydym yn gwneud nifer o argymhellion sy’n ymwneud ag enwau etholaethau a’u henwi, gan gynnwys cryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg, cyflwyno rhagdybiaeth o blaid enwau uniaith oni bai bod rhesymau penodol pam y mae enwau dwyieithog yn briodol, a gwahardd enwau uniaith Saesneg ar etholaethau.

 

Nôl i'r cynnwys

Anghymhwyso ar sail ble y mae person yn preswylio

Mae'r Bil yn cynnig anghymhwyso rhywun nad yw wedi’i gofrestru fel etholwr llywodraeth leol mewn cyfeiriad yn un o etholaethau’r Senedd rhag bod yn ymgeisydd neu'n Aelod.

Rydym yn cefnogi'r egwyddor hon, ond mae’n siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi ei chynnwys yn y Bil heb unrhyw ymgynghori nac ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae’n amlwg o’r dystiolaeth fod y cynnig yn codi nifer o ystyriaethau ymarferol ac ystyriaethau polisi y byddent wedi elwa o brosesau ymgynghori, ymgysylltu a chraffu priodol cyn deddfu.

Rydym yn gwneud argymhellion ynghylch gweithredu'r ddarpariaeth yn ymarferol, ac yn galw ar yr Aelod sy'n gyfrifol i:

  • Ddiwygio'r Bil i ddarparu cyfnod gras priodol fel y gall Aelod apelio os caiff ei enw ei ddileu o’r gofrestr etholwyr mewn cyfeiriad yng Nghymru, i’w atal rhag colli ei sedd o ganlyniad i ddileu ei enw ar ddamwain o’r gofrestr.
  • Darparu mecanwaith i ymgeisydd wrth gefn, a fyddai fel arall yn gymwys i gymryd sedd wag sy’n codi yn ystod tymor Senedd, gofrestru ar y gofrestr etholwyr gyda chyfeiriad yng Nghymru.

 

Nôl i'r cynnwys

Mecanweithiau adolygu

Mae’r Bil yn cynnig bod rhaid i’r Llywydd yn y Seithfed Senedd gyflwyno dau gynnig sy'n cynnig bod y Senedd yn sefydlu pwyllgorau i:

  • Adolygu materion sy'n ymwneud â rhannu swyddi statudol penodol, gan gynnwys Aelod o'r Senedd, Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol.
  • Adolygu gweithrediad Rhannau 1 a 2 o'r Ddeddf sy’n ymwneud ag etholiad 2026, ac i ba raddau y mae elfennau democratiaeth iach yn bresennol yng Nghymru.

Rydym o’r farn bod y darpariaethau hyn yn broblematig o safbwynt cyfansoddiadol ac yn ddiangen o safbwynt cyfreithiol. Rydym yn galw ar yr Aelod sy'n gyfrifol i'w dileu o'r Bil. Dyna y byddem yn ei ffafrio. Ond, os na fydd yn gwneud hynny, rydym wedi argymell gwelliannau a allai liniaru ein pryderon yn rhannol.

Nid ydym yn gweld pam y dylid gohirio gwaith pellach ar rannu swyddi tan ar ôl 2026, hyd yn oed os nad yw'n bosibl rhoi unrhyw argymhellion ar waith yn ddeddfwriaethol cyn etholiad 2026. Rydym yn galw ar y Pwyllgor Busnes i ystyried naill ai cynnig sefydlu pwyllgor newydd yn y Chweched Senedd, neu ofyn i bwyllgor presennol archwilio i ba raddau y dylai personau allu dal y swyddi a restrir yn adran 7(3) o'r Bil ar y cyd, gan gynnwys i ba raddau y dylai person allu dal swydd o'r fath dros dro tra nad yw'r person a etholir neu a benodir i’r swydd honno ar gael.

 

Nôl i'r cynnwys

Materion eraill

Rydym hefyd wedi archwilio dau fater nad yw’r Bil yn ymdrin â hwy.

Adnoddau datblygu polisi ar gyfer pleidiau gwleidyddol.

Er ei fod y tu allan i gwmpas y Bil, rydym o’r farn bod gweithrediad effeithiol democratiaeth seneddol hefyd yn dibynnu ar allu pleidiau gwleidyddol i ddatblygu polisi cadarn sy’n cael ei arwain gan dystiolaeth. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid allweddol i adolygu'r adnoddau a'r cyllid cyhoeddus sydd ar gael i bleidiau gwleidyddol ar gyfer gwaith datblygu polisi. Rydym hefyd yn galw ar Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd i adolygu'r adnoddau y mae'n eu darparu, gan gynnwys i ba raddau y maent yn cyfateb i’r lefel a’r mathau o gymorth sydd ar gael mewn seneddau eraill.

Atebolrwydd Aelodau unigol.

Credwn yn gryf y dylai Aelodau unigol fod yn atebol i’w hetholwyr. Mae rhai mecanweithiau eisoes ar waith drwy drefniadau safonau ac urddas a pharch y Senedd, ond credwn fod lle i gryfhau’r rhain. Mae rhai wedi cynnig mecanweithiau adalw tebyg i Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015, ond mae cymhlethdodau o ran rhoi hyn ar waith gyda system rhestr gaeedig. Rydym hefyd wedi clywed cynigion ar gyfer cryfhau'r trefniadau anghymhwyso a'r sancsiynau y gellir eu gosod ar Aelodau sy'n torri'r cod ymddygiad. Nid oes digon o amser ar gael i ddatblygu ac ymgynghori ar gynigion polisi a deddfwriaethol cadarn i'w cynnwys yn y Bil hwn. Rydym yn galw ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i weithio gyda phartneriaid allweddol i ddatblygu opsiynau ar gyfer cryfhau atebolrwydd Aelodau, ac i ymgynghori arnynt cyn diwedd y Chweched Senedd.

 

Nôl i'r cynnwys